Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
5ed Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad
Logo 1954 Vancouver.png
Dinas Vancouver, Canada
Gwledydd gymrodd rhan 24
Athletwyr gymrodd rhan 662
Campau 91
Seremoni agoriadol 30 Gorffennaf
Seremoni cau 7 Awst
Prif leoliad Eden City
IV VI  >

Gemau Ymerodraeth Prydain a'r Gymanwlad 1954 oedd y pumed tro i'r hyn sydd bellach yn cael ei adnabod fel Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal ond y tro cyntaf i'r Gymanwlad cael ei grybwyll yn nheitl y Gemau. Daeth y penderfyniad i newid yr enw mewn cyfarfod yn ystod Gemau Olympaidd 1952 yn Helsinki. Vancouver, Canada sef cartref y Gemau rhwng 30 Gorffennaf - 7 Awst.

Cafwyd y Gemau mwyaf hyd yma yn Vancouver gyda saith o wledydd yn ymddangos am y tro cyntaf; Ghana, Bahamas, Barbados, Gogledd Rhodesia, Kenya, Pacistan ac Uganda.

Yn ystod Gemau 1954 cafwyd y defnydd o systemau electronig i amseru'r cystadleuwyr am y tro cyntaf erioed gyda system ffotograffiaeth yn cael ei ddefnyddio ar linell derfyn y rasys athletau.

Mae Gemau 1954 yn enwog am y 'Miracle Mile' lle roedd Roger Bannister o Loegr a John Landy o Awstralia - yr unig ddau ddyn yn y byd ar y pryd i fod wedi rhedeg milltir mewn llai na 4 munud - yn wynebu eu gilydd am y tro cyntaf. Landy oedd ar y blaen tan ytroad olaf pan garlamodd Bannister heibio i ennill mewn amser o 3'58.8" gyda Landy 0.8 eiliad ar ei ôl - y tro cyntaf erioed i ddau redwr i dorri 4 munud yr yr un ras.

Chwaraeon[golygu]

Timau yn cystadlu[golygu]

Cafwyd 24 tîm yn cystadlu yng Ngemau'r Ymerodraeth Brydeinig a'r Gymanwlad, 1954 gyda'r Arfordir Euraidd, Bahamas, Barbados, Gogledd Rhodesia, Kenya, Pacistan ac Uganda yn ymddangos am y tro cyntaf.

Tabl Medalau[golygu]

 Safle  Cenedl Aur Arian Efydd Cyfanswm
1 Baner Lloegr Lloegr 23 24 20 67
2 Baner Awstralia Awstralia 20 11 17 48
3 Flag of South Africa 1928-1994.svg De Affrica 16 6 13 35
4 Canadian Red Ensign 1957-1965.svg Canada 9 20 14 43
5 Baner Seland Newydd Seland Newydd 7 7 5 19
6 Baner Yr Alban Yr Alban 6 2 5 13
7 Flag of Southern Rhodesia.svg Zimbabwe 3 6 3 12
8 Trinidad colonial 1889-1958.gif Trinidad a Tobago 2 2 0 4
9 Baner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon 2 1 0 3
10 Flag of British Colonial Nigeria.svg Nigeria 1 3 3 7
11 Baner Pacistan Pacistan 1 3 2 6
12 Baner Cymru Cymru 1 1 5 7
13 Flag of Jamaica (1906-1957).svg Jamaica 1 0 0 1
14 Flag of Barbados (1870–1966).png Barbados 0 1 0 1
Flag of Hong Kong 1910.png Hong Kong 0 1 0 1
Flag of the Uganda Protectorate.svg Uganda 0 1 0 1
17 Flag of British guiana 1919-1954.gif Guiana Prydeinig 0 0 1 1
Flag of Northern Rhodesia (1939-1953).svg Gogledd Rhodesia 0 0 1 1
Cyfanswm 92 89 89 270

Medalau'r Cymry[golygu]

Roedd 20 aelod yn nhîm Cymru.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur John Brockway Nofio 110llath ar ei gefn
Arian Malcolm Collins Bocsio Pwysau plu
Efydd Ken Jones Athletau 220llath
Efydd Don Skene Beicio 10milltir
Efydd Ron Jenkins Codi Pwysau Pwysau plu
Efydd Aileen Harding Ffensio ffoil

Dolenni allanol[golygu]

Rhagflaenydd:
Auckland
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Caerdydd