Gelli Aur

Oddi ar Wicipedia
Gelli-aur
Mathadeilad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadLlanfihangel Aberbythych Edit this on Wikidata
SirSir Gaerfyrddin
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr91 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.8596°N 4.03862°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II* Edit this on Wikidata
Manylion
Am y pentref gweler Gelli-aur.

Plasdy yn Nyffryn Tywi ar gyrion pentref Gelli-aur ger Llandeilo, Sir Gaerfyrddin yw'r Gelli Aur, hefyd Gelli-aur (Saesneg: Golden Grove).

Adeiladwyd y plasdy gwreiddiol gan deulu dylanwadol Vaughan rhwng 1565 a 1570. Ymhlith aelodau'r teulu hwn roedd William Vaughan (1575 - 1641), sefydlydd trefedigaeth Gymreig Cambriol yn Newfoundland, a Richard Vaughan, 2il Iarll Carbery. Rhoddodd Richard Vaughan loches i Jeremy Taylor yn y Gelli Aur, ac yno yr ysgrifennodd ei lyfr enwog Holy Living and Holy Dying, llyfr a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Ellis Wynne fel Rheol Buchedd Sanctaidd.

Bu farw'r olaf o'r Vaughaniaid yn ddi-blant yn 1804, a daeth y stad yn eiddo teulu Cawdor. Y teulu yma a adeiladodd y plasdy presennol, rhwng 1827 a 1832. Mae'r plasdy a'r tiroedd o'i gwmpas yn awr yn eiddo i Gyngor Sir Gaerfyrddin, ac yn ffurfio Parc Gwledig Gelli Aur.