Geirfa coffi
Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Geiriadur Coffi)
Dyma rhestr o eiriau a thermau a ddefnyddir i ddisgrifio gwahanol mathau o goffi.
|
A B C Ch D Dd E F Ff G Ng H I J L Ll M N O P Ph R Rh S T Th U W Y |
[golygu] A
- Affogato : hufen iâ fanila ac ergyd o espresso ar ei ben
- Americano : espresso gyda phiser o ddŵr poeth
- Aromatizzato - caffè latte aromatizzato : espresso gyda sudd o unrhyw sawr, llaeth poeth a llaeth ewynnog ar ei ben
[golygu] B
- Breve - cafè breve : gyda "hanner a hanner" (llaeth a hufen) ynddo, a llaeth ewynnog ar ei ben
- Brûlot - café brûlot : gyda brandi a pherlysiau
[golygu] C
- Café / Café express / Café noir : espresso yn Ffrangeg
- Café Wien (cynaniad; ca-ffe fîn)/ Viennois : coffi a chantilly ar ei ben
- Calva - café calva : espresso a gwydr o Calvados
- Cappuccino (cynaniad; cap-w-TSHI-no): espresso gyda llaeth poeth ewynnog a taenelliad o bowdwr coco (i'w yfed yn y bore yn unig)
- Cappuccio (cynaniad; ca-PWT-sho): cappuccino mawr
- Carameleon : Ychydig o lemonêd, ychydig o driagl caramel a choffi wedi decaffeineiddio gyda rhew
- Coffi gwyn : gyda llaeth oer
- Coffi gwyrdd : ffa coffi heb eu rhostio. (fel hyn fe fydd coffi yn cael ei allforio / mewnforio)
- Coffi rhew : gyda thriagl melyn a rhew
- Coffi'r Congo : yr enw cyffredin ar blanhigyn robusta
- Complet - café complet : brecwast cyfandirol
- Corretto : espresso gyda diferyn o wirod ynddo
- Corretto grappa : espresso gyda diferyn o grappa ynddo
- Crema : ewin parhaus lliw gafrewig sy ar wyneb coffi da.
- Crème - café crème : espresso gyda hufen neu macchiato freddo
[golygu] Ch
- Chantilly (cynaniad: shan-TÎ-ï) : hufen melys wedi corddi
[golygu] D
- Doppio / Espresso doppio : dwy ergyd o espresso yn yr un cwpan
[golygu] E
- Espresso : (Eidaleg =wedi ei wasgu allan) coffi bach du
- Espresso con panna : espresso gyda hufen
- Espresso doppio : dwy ergyd o espresso yn yr un cwpan
[golygu] F
- Fifty-fifty : hanner a hanner (llaeth a hufen)
- Flat white : (Awstralia a Gogledd America) coffi gwyn
- Flavoured coffee / caffè latte aromatizzato. Gweler aromatizzato
- Frappé (cynaniad; ffrap-e) : coffi wedi corddi gyda hufen iâ a dŵr barlys gyda rhew (o wlad Groeg yn wreiddiol)
- Freddo (cynaniad; FFRED-o) - caffè freddo shakerato : coffi oer wedi ei ysgwyd (gellir ychwanegu gwirod neu fanila)
- Fredoccino (cynaniad; ffred-o-TSHI-no) / Freeze : unrhyw fath o goffi rhewllyd
[golygu] G
- Gioccato (cynaniad; jo-CA-to) : espresso gyda llaeth ewynnog ar ei ben
- Grande (café) crème : café au lait
- Granita di caffè con panna : coffi yn llawn naddion rhew gyda chantilly ar ei ben
[golygu] H
- Hanner a hanner : cymysgiad gydradd o laeth a hufen
- Hag - Caffè Hag : coffi wedi decaffeineiddio
[golygu] I
- Irish coffee : gyda wisgi a hufen
[golygu] J
- Java : coffi gyda siocled poeth a chantilly (hufen melys wedi corddi) ar ei ben
[golygu] L
- lait - café au lait (cynaniad; ca-ffe ô le): gyda llaeth poeth
- Large cappuccino : (yn Awstralia) cappuccio
- latte - caffè (e) latte : llaeth poeth gyda espresso a llaeth ewynnog ar ei ben (i frecwast)
- Liégeois (cynaniad; li-e-shwa) : hufen iâ gyda choffi rhew arno a chantilly ar ei ben
- Limone - caffè con limone : coffi gyda lemon
- Long - long black / Café long / Caffè lungo : espresso gyda rhagor o ddŵr poeth wedi wasgu drwy'r hidlydd
- Lungo - caffè lungo : gweler Long
[golygu] M
- Macchiato caldo : espresso gyda diferyn o laeth poeth
- Macchiato freddo : espresso gyda diferyn o laeth oer
- Maroccino : espresso gyda llaeth poeth ewynnog
- Moca / Mocha : y coffi gorau, o Al Mukha, porthladd masnachwyr coffi yn Yemen
-
- gellir Moca olygu hefyd;- espresso gyda sudd siocled, llaeth poeth a hufen wedi corddi
- pot Moca : aillai percoladur, neu gwneuthurwr coffi pen stôf ("Bialetti")
- Moitié-moitié : (Ffrangeg - cynaniad MWAT-ië-MWAT-ië) : hanner a hanner (llaeth a hufen)
[golygu] N
- Noisette (cynaniad; nwa-ZET) : (yn Ffrainc). Gweler macchiato
[golygu] P
- Panna : hufen (yn eidaleg) - espresso con panna : espresso gyda hufen
[golygu] R
- Ristretto / Caffè stretto : espresso bach cryf
- Romana - caffè alla romana : coffi mewn gwydr
[golygu] S
- Salsa fanila : coffi gyda ychydig o sudd fanila, dŵr mwyn eferw a rhew
- Shakerato - caffè freddo shakerato : coffi oer wedi ei ysgwyd (gellir ychwanegu gwirod neu fanila)
- Short black : coffi bach du. Gweler espresso
[golygu] T
- tazza fredda (cynaniad; TAD-sa FFRED-a) - caffè in tazza fredda : coffi mewn cwpan oer
[golygu] V
- Viennois (cynaniad; fi-en-wa) / Café Wien : coffi a chantilly ar ei ben
[golygu] Cysylltiadau allanol
Mae gan Wicillyfrau gwerslyfr neu lawlyfr ar y pwnc yma:

