Gay-for-pay

Oddi ar Wicipedia
Mae diddanwyr fel Village People (Eric Anzalone yn y llun) wedi elwa'n ariannol o bersona hoyw ystrydebol, tra'n ystyried eu hunain yn heterorywiol[1]

Mae gay-for-pay yn disgrifio actorion pornograffig neu weithwyr rhyw gwrywaidd (a benywaidd, weithiau) sy'n ystyried eu hunain yn heterorywiol ond sy'n cael eu talu i actio neu berfformio fel person hoyw ar lefel broffesiynol.

Yn y diwydiant pornograffi hoyw, sy'n defnyddio actorion amatur yn ogystal ag actorion proffesiynol, cyfeiria'r term gay-for-pay at actorion a ddywedir sy'n heterorywiol ond sy'n ymgymryd â gweithredodd a/neu gyfathrach rywiol am arian. Bydd rhai actorion sydd yn gyfunrywiol neu'n ddeurywiol yn cael eu marchnata fel pobl heterorywiol.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]