Gavin & Stacey

Oddi ar Wicipedia
Gavin & Stacey
Genre Comedi
Drama
Serennu Mathew Horne
Joanna Page
Ruth Jones
James Corden
Alison Steadman
Larry Lamb
Melanie Walters
Rob Brydon
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 3
Nifer penodau 21
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Christine Gernon
Amser rhedeg 19x 30 munud
2x 60 munud
2x 8 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Baby Cow Productions
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC Three
(2007–2008)
BBC One

(2008–2010, 2019)
Darllediad gwreiddiol Rhaglen gwreiddiol:
13 Mai 2007 (2007-05-13) – 1 Ionawr 2010 (2010-01-01)
Pennod Arbennig:
25 Rhagfyr 2019 (2019-12-25)
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Mae Gavin & Stacey yn gomedi sefyllfa Brydeinig, a ysgrifennwyd gan James Corden a Ruth Jones, sy'n dilyn dau deulu sy’n dod at ei gilydd - un o Loegr ac un o Gymru - ar ôl i gwpl ifanc syrthio mewn cariad. Mae Mathew Horne a Joanna Page yn chwarae'r prif gymeriadau, tra bod yr awduron hefyd yn serennu fel ffrindiau Gavin a Stacey, Smithy a Nessa. Mae aelodau cast eraill yn cynnwys Alison Steadman a Larry Lamb, sy'n chwarae rhieni Gavin, Pam a Mick, a Melanie Walters a Rob Brydon, sy'n portreadu mam Stacey, Gwen, a'i hewythr, Bryn.

Er i'r gyfres gael ei lleoli yn Billericay, Essex a'r Barri, Bro Morgannwg cafodd rhannau helaeth o'r gyfres eu ffilmio yn y Barri ac ardaloedd cyfagos megis Ynys y Barri, Dinas Powys, Sully, Penarth a Chaerdydd.

Ym mis Mai 2019, cyhoeddwyd y byddai'r sioe yn cael ei hadfywio gyda rhaglen arbennig ar gyfer y Nadolig ym 2019. Dangoswyd y ddwy gyfres cyntaf ar BBC Three, ond oherwydd pobligrwydd mawr symudwyd i BBC Two, ac yn i BBC One. Roedd penodau olaf y gyfres derfynol yn rhan bwysig o raglenni tymhorol y BBC ar y pryd, ac fe'u darlledwyd ar Ddydd Nadolig 2009 a Dydd Calan 2010 gyda dros 10 miliwn yn gwylio pob pennod.

Cafodd Gavin & Stacey ei ganmol fel sioe arloesol i BBC Three, a ddaeth yn sioe fwyaf enwebedig yng Ngwobrau Comedi Prydain 2007. Enillodd sawl gwobr, gan gynnwys BAFTA Cymru, a Gwobr Comedi Teledu a Gwobrau Comedi Prydain, yn 2008. Mae'r rhaglen hefyd wedi cael derbyniad da mewn sawl gwlad arall. Yn 2019, enwyd Gavin & Stacey yr 17fed comedi Prydeinig gorau, mewn arolwg gan y Radio Times.

Sefyllfa[golygu | golygu cod]

Mae'r sioe yn dilyn rhamant rhwng Gavin, o Billericay yn Essex, a Stacey, o'r Barri ym Mro Morgannwg, Cymru. I ddechrau, mae Gavin yn byw gyda'i rieni, Pam a Mick, ac yn treulio y rhan fwyaf o'i amser gyda'i ffrind gorau, Smithy. Mae Stacey yn byw gyda'i mam weddw, Gwen, ac mae ei hewythr, Bryn, yn ymweld â’r teulu yn aml. Mae'r gyfres yn dilyn yr eiliadau allweddol yn eu perthynas: eu cyfarfod cyntaf, cwrdd â theuluoedd ei gilydd, canlyn, priodi, chwilio am fflat, chwilio am swyddi newydd a cheisio cael plant.

Mae cymeriadau Gavin a Stacey yn darparu craidd emosiynol y stori. Mae'r sioe yn canolbwyntio ar y sefyllfaoedd sy'n codi pan fydd eu perthynas yn dod â'u dau deulu gwahanol at ei gilydd. O ganlyniad, mae penodau yn aml yn canolbwyntio ar y digwyddiadau allweddol mewn bywyd sy'n dod â theuluoedd ehangach a ffrindiau agos at ei gilydd fel priodasau, bedyddiadau, partïon pen-blwydd a Nadoligau.

Mae ail linell stori arwyddocaol yn dilyn y berthynas gyferbyniol rhwng Smithy a Nessa. Er gwaethaf eu casineb at ei gilydd, maent yn cysgu a’i gilydd yn gyson, er nad yw run yn hoff iawn o’i gilydd sy'n golygu bod Nessa yn beichiogi ac yn cael eu babi ar ddiwedd yr ail gyfres. Er mai Gavin and Stacey yw'r prif gymeriadau clir, tuag at ddiwedd y sioe, mae'r pwyslais dramatig yn newid ychydig oddi wrthynt, wrth iddynt ddatrys eu problemau pellter, i Smithy a Nessa, wrth i Nessa ymgysylltu â dyn arall.

Mae straeon eraill a redodd drwy gydol y tair cyfres yn cynnwys llysieuaeth ffug Pam, brwydr Bryn a'i nai, Jason wrth gael hi'n anodd cadw digwyddiadau eu taith bysgota drychinebus (gyda'r canlyniad byth yn cael ei ddatgelu) yn gyfrinach, a phriodas cas a di-gariad Pete a Dawn.

Prif gymeriadau[golygu | golygu cod]

James Corden a Ruth Jones, crëwyr y gyfres.
  • Gavin Shipman (Mathew Horne) - a elwir yn "Gav", "Gavlar", neu "Gavalar" gan lawer o’i ffrindiau. Y prif gymeriad doniol a brwdfrydig o Billericay, Essex.
  • Stacey Shipman (née West) (Joanna Page) - Prif gymeriad bywiog o Y Barri. Wedi dyweddio pum gwaith cyn Gavin.
  • Neil "Smithy" Smith (James Corden) - Ffrind hynaf ac agosaf Gavin, sydd hefyd yn byw yn Billericay, Essex. Mae Smithy yn aml yn genfigennus o berthynas Gavin a Stacey, ac mae ganddo berthynas gymhleth â Nessa, gan gael plentyn gyda hi yn ddiweddarach.
  • Vanessa Shanessa "Nessa" Jenkins (Ruth Jones) - Ffrind hynaf ac agosaf Stacey, sydd hefyd o'r Barri. Mae gan Nessa nifer o gysylltiadau enwogion, fel MP John Prescott, ac yn ddiweddarach mae'n dechrau perthynas â Dave “Coaches” Lloyd Gooch. Mae ganddi hefyd fabi gyda Smithy yng nghyfres 2, Neil Noel Edmund Smith.
  • Michael "Mick" Shipman (Larry Lamb) - Tad Gavin. Mae'n ostyngedig ac yn ofalgar.
  • Pamela Andrea "Pam" Shipman (née Gryglaszewska) (Alison Steadman) - Mam cartref balch a gor-amddiffynnol Gavin.
  • Brynfor "Bryn" West (Rob Brydon) - a elwir yn “Uncle Bryn”; Ewythr amddiffynnol Stacey, ond eto naïf ac ecsentrig, a brawd yng nghyfraith Gwen. Bu brawd Bryn, Trevor, tad Stacey, farw cyn yr amser a ddarlunnir yn y gyfres, a helpodd Bryn y teulu i ymdopi â hi. Mae ganddo berthynas anodd gyda'i nai, Jason, oherwydd rhywbeth a ddigwyddodd ar daith bysgotau.
  • Gwen West (Melanie Walters) - Mam gofalgar, gweddw Stacey. Mae ganddi fab hynaf, Jason, sy'n byw yn Sbaen. Mae hi'n gyson yn gwneud omelettes.

Rolau ategol[golygu | golygu cod]

  • Jason West (Robert Wilfort) - Brawd hŷn hoyw Stacey, sy'n byw yn Sbaen.
  • Dawn Sutcliffe (Julia Davis) - Ffrind agos i Pam a Mick, sydd yn dadlau’n gyhoeddus yn aml gyda'i gŵr, Pete.
  • Peter "Pete" Sutcliffe (Adrian Scarborough) - Ffrind agos i Pam a Mick, gŵr i Dawn.
  • David “Coaches" Lloyd Gooch (Steffan Rhodri) - Gyrrwr cwmni bws lleol, Cyn-gariad i Nessa.
  • Doris O'Neill (Margaret John) - Cymydog oedrannus ond bywiog Gwen, a ffrind agos i'r teulu West.
  • Ruth "Rudi" Smith (Sheridan Smith) - Chwaer iau anarferol, ond cariadus Smithy sydd hefyd yn hoffi cael ei galw'n 'Smithy'. Yn gweithio mewn bwyty bwyd cyflym yn Billericay.
  • Catherina "Cath" Smith (Pam Ferris) - Mam sengl Smithy, yn dioddef o narcolepsy.
  • Dirtbox (Andrew Knott) - Ffrind i Gavin and Smithy.
  • Deano (Mathew Baynton) - Ffrind i Gavin and Smithy, sy'n gweithio gyda Smithy fel adeiladwr ac mae'n ymddangos yn ddibwys iawn.
  • Budgie (Russell Tovey) - Ffrind i Gavin and Smithy.
  • Chinese Alan (Dominic Gaskell) - Ffrind i Gavin and Smithy, mae ganddo'r llysenw hwn er nad yw'n Tsieineaidd.
  • Craig "Fingers" (Samuel Anderson) - Ffrind i Gavin and Smithy.
  • Jesus (Daniel Curtis) - Ffrind i Gavin and Smithy.
  • Swede (John Grisley) - Ffrind i Gavin and Smithy.
  • Louise (Ffion Williams) - Ffrind i Stacey a Nessa.
  • Anje (Beth Granville) - Ffrind i Stacey a Nessa.
  • Neil Jenkins (Huw Dafydd) - Tad Nessa, a welir yn anaml yn y Barri, ond mynychodd fedydd Neil y babi.
  • Owain Hughes (Steve Meo) - Rheolwr Gwefan yn swydd newydd Gavin yng Nghaerdydd.
  • Dick Powell (Gwynfor Roberts) - Yr unig breswylydd sy'n siarad Cymraeg yn y Barri (ar wahân i'r cenedlaetholwyr Cymreig yn y parc carafannau). Mae'n gweithio ar y farchnad ddu yn gwerthu nwyddau am bris rhad megis camerau a chig.
  • Neil Noel Edmond Smith (Ewan Kennedy, Oscar Hartland, Rocco Romanello) - Mab Smithy a Nessa.

Cynhyrchiad[golygu | golygu cod]

Rob Brydon fel Yncl Bryn
Alison Steadman fel Pam Shipman

Fe ddaeth y syniad ar gyfer y sioe i'r actor James Corden yn ystod derbyniad priodas, ac yna datblygodd y syniad gyda'i cyd-awdur Ruth Jones, a oedd wedi cwrdd ag yn ystod ffilmio drama Fat Friends. Mae Corden yn honni ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan stori ei gyfaill ei hun, Gavin, a gyfarfu â'i wraig dros y ffôn yn y gwaith, a threfnu cyfarfod. Fe'u cyflwynwyd i'r BBC fel drama unigol awr a hanner o hyd, ond yn hytrach gofynnodd y BBC am gyfres lawn.

Cafodd rolau Gavin and Stacey eu bwrw drwy broses clyweliad, ond cawsant eu rhoi bron yn syth i Mathew Horne a Joanna Page ar gryfder eu partneriaeth a'i gilydd. Ysgrifennwyd rolau Nessa and Smithy gan Corden a Jones drostynt eu hunain. Ysgrifennwyd rhai rolau gyda rhai actorion mewn golwg; Ysgrifennwyd Yncl Bryn yn benodol ar gyfer Rob Brydon, a oedd wedi bod i'r ysgol gyda Jones, tra ysgrifennwyd Pam yn benodol ar gyfer Alison Steadman, a oedd hefyd wedi gweithio ar Fat Friends gyda’r ddau. Roedd Jones wedi gweithio gyda Julia Davis yn ei chystadleuaeth Nighty Night, ac ysgrifennwyd rôl Dawn gyda hi mewn golwg. Yn ogystal, ymddangosodd Corden gydag Adrian Scarborough yn y ddrama a'r ffilm The History Boys. Defnyddiwyd proses clyweliad i fwrw rolau Mick a Gwen, tra rhoddwyd rolau ffrindiau Gavin i gyd-sêr Corden o’r History Boys.

Er bod y rhaglen wedi'i lleoli yn Billericay, Essex, a'r Barri, Bro Morgannwg, saethwyd y tair cyfres yn bennaf yng Nghaerdydd (a oedd yn gweithredu fel y ddinas ei hun ond hefyd fel rhannau o Billericay), a hefyd yn y Barri ei hun a'r ardal gyfagos, gan gynnwys Dinas Powys, Sully a Phenarth. Mae poblogrwydd y sioe wedi cael ei gredydu gan roi hwb i'r fasnach ymwelwyr i'r Barri a'i lan môr boblogaidd o Ynys y Barri, gyda’r ymwelwyr yn dymuno ymweld â'r gwahanol leoliadau ffilmio. Roedd tŷ Gavin wedi'i leoli yn Billericay ond cafodd ei ffilmio mewn gwirionedd ar leoliad yn Laburnum Way, Dinas Powys yng Nghymru. Mae'r bennod agoriadol yn cynnwys saethu lleoliad yn Leicester Square yn Llundain a ffilmiwyd yn 2006.

Ar ôl ymddangosiad cyntaf y sioe ar BBC Three, comisiynwyd ail gyfres yn fuan. Wrth siarad am yr ail gyfres, dywedodd Corden "Dyma'r sioe roedden ni eisiau ei gwneud. Os yw pobl yn ei hoffi, maen nhw'n ei hoffi: os nad ydyn nhw, dydyn nhw ddim. Mae hynny'n deimlad braf, mae hynny'n hollol rydd ... Mae mwy o siwrnai a mwy o stori. Gobeithiwn y bydd y gwylwyr yn teimlo fel eu bod wedi cael eu cymryd ar daith fach ganddo", tra dywedodd Jones "Roedd gan y gyfres cyntaf linell stori benodol iawn iddo, bachgen yn cwrdd â merch ac mae'n dod i ben mewn priodas. Nid oes gennym yr un math o linell stori yn yr ail gyfres. Yn awr mae merch yn byw gyda rhieni bachgen yn Essex a'r llawenydd a allai olygu. "

Ar y dechrau roedd ansicrwydd ynghylch a fyddai trydedd gyfres yn cael ei chynhyrchu. Mewn cyfweliad ym mis Ebrill 2008, dywedodd Jones "Doedden ni erioed wedi bwriadu ysgrifennu ail gyfres heb sôn am drydydd. Dydyn ni ddim eisiau iddi fod yn rhaglen a rhagweladwy." Ychwanegodd Corden: "Byddwn yn ysgrifennu un os gallwn ei wneud yn well. Rhaid i ni fod yn wir i ni ein hunain." Cwblhaodd Corden a Jones ddrafft terfynol ym mhennod Nadolig erbyn mis Medi 2008, er nad oeddent wedi ysgrifennu'r drydedd gyfres ar y pryd oherwydd pwysau gwaith arall.

Yn y pen draw, cyhoeddodd Corden a Jones y byddai trydedd gyfres yn cael ei chynhyrchu, ar 21 Rhagfyr 2008 ychydig cyn y Nadolig, wrth i Jones berfformio ei sioe radio Sul Brunch BBC Radio Wales i gynulleidfa fyw ar Ynys y Barri.

Penodau[golygu | golygu cod]

Mae'r gyfres yn cynnwys ugain pennod, wedi'u darlledu dros dair cyfres, a phennod arbennig ar Noswyl Nadolig. Roedd y gyfres gyntaf yn cynnwys chwe phennod hanner awr a ddarlledwyd gyntaf yn 2007, o 13 Mai i 10 Mehefin 2007. Cafodd y sioe ei hymestyn i saith pennod ar gyfer yr ail gyfres, a chynhaliwyd gyntaf yn 2008, rhwng 16 Mawrth a 20 Ebrill. Roedd pennod arbennig Noswyl Nadolig 2008 yn awr o hyd. Aeth y drydedd gyfres yn ôl i chwe phennod a dechrau ar 26 Tachwedd 2009, gyda'r ddwy bennod olaf o'r gyfres a sioe yn cael eu darlledu ar Ddydd Nadolig 2009 a Dydd Calan 2010.

Crynodeb
Cyfres Pennod Darllediad gwreiddiol
Pennod cyntaf Pennod olaf
1 6 13 Mai 2007 (2007-05-13) 10 Mehefin 2007 (2007-06-10)
2 7 16 Mawrth 2008 (2008-03-16) 20 Ebrill 2008 (2008-04-20)
Pennod Nadolig 24 Rhagfyr 2008 (2008-12-24)
3 6 26 Tachwedd 2009 (2009-11-26) 1 Ionawr 2010 (2010-01-01)
Pennod Nadolig 25 Rhagfyr 2019 (2019-12-25)[1]

Mae'r BBC hefyd wedi darlledu nifer o raglenni dogfen ochr yn ochr â'r sioe, gan ddangos sut mae’r rhaglenni yn cael eu gwneud a dangos detholiad o’r 'out-takes' dros y tair cyfres.

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Enwebwyd ac enillodd y sioe nifer o wobrau trwy gydol ei oes, yn cynnwys y wobr BAFTAs yn 2008. Yng Ngwobrau Comedi Prydain ym mis Rhagfyr 2007, enillodd y sioe Gomedi Deledu Brydeinig Gorau, gan golli yn y categori Comedi Teledu Newydd Gorau i Peep Show. Enillodd James Corden a Ruth Jones yr actorion Comedi Gwryw a Benyw Gorau yn y drefn honno, gyda Mathew Horne a Joanna Page, eu cyd-aelodau cast hefyd wedi'u henwebu yn yr un categorïau. Cafodd y sioe ei henwi hefyd yn Brif Gomedi Teledu Newydd Prydain yng Ngwobrau Comedy 2007.

Ym mis Ebrill 2008 enillodd y sioe ddwy wobr yn y BAFTAs, y Wobr Cynulleidfa, a'r Perfformiad Comedi Gorau i James Corden. Ym mis Rhagfyr 2008 enillodd y sioe Comedi Teledu Orau yng Ngwobrau Comedi Prydain 2008. Yn y BAFTAau 2009 enwebwyd Rob Brydon ar gyfer Perfformiad Comedi Gorau fel Bryn.

Yn y Gwobrau Teledu Cenedlaethol (National Televison Awards) ym mis Ionawr 2010, enillodd Gavin and Stacey y wobr am y Comedi Orau.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Twitter @JKCorden. Twitter, 28 Mai 2019.