Gaulliaeth
Oddi ar Wicipedia
Ideoleg wleidyddol Ffrengig yw Gaulliaeth (Ffrangeg: Gaullisme) sy'n seiliedig ar safbwyntiau Charles de Gaulle, arweinydd Ffrainc Rydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac arlywydd Ffrainc rhwng 1959 a 1969. Pwysleisiodd de Gaulle genedlaetholdeb Ffrengig yn wyneb meddiannaeth Ffrainc gan yr Almaen a Llywodraeth Vichy ym mlynyddoedd y rhyfel, a thra'n arlywydd brwydrodd i gadw Ffrainc yn bŵer mawr ar lwyfan y byd. O ran polisi economaidd, ffafriodd de Gaulle dirigisme, sef system economaidd Keynesaidd gyda rôl fawr i'w chwarae gan lywodraeth Ffrainc.