Gasherbrum II
Oddi ar Wicipedia
| Gasherbrum II Himalaya |
|
|---|---|
| Llun | Gasherbrum II |
| Uchder | 8,035 m |
| Gwlad | Pacistan/Gweriniaeth Pobl Tsieina |
Gasherbrum II yw'r 13eg mynydd yn y byd o ran uchder. Mae'n rhan o massif Gasherbrum, a saif ar y ffîn rhwng Pacistan a Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Cafodd Gasherbrum II yr enw K4 fel y pedwerydd copa yn y Karakoram gan T.G. Montgomery yn 1856. Dringwyd y mynydd am y tro cyntaf ar 8 Gorffennaf 1956 pan gyrhaeddodd Fritz Moravec, Josef Larch a Hans Willenpart y copa fel rhan o ymgyrch Awstraidd. Dim ond yn 1975 y dringwyd ef am yr ail dro, gan ddringwyr o Ffrainc.
| Y 14 copa dros 8,000 medr |
| Annapurna · Broad Peak · Cho Oyu · Dhaulagiri · Everest · Gasherbrum I · Gasherbrum II |
| K2 · Kangchenjunga · Lhotse · Makalu · Manaslu · Nanga Parbat · Shishapangma |