Gareth Williams

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Model o weithle Gareth Williams, sef yr Adran "Glustfeinio" y GCHQ yn Cheltenham.

Ysbiwr a Chymro Cymraeg o Sir Fôn oedd Gareth Williams a oedd yn gweithio i GCHQ y Llywodraeth ac i MI6. Canfuwyd ei gorff ar y 15 Awst, 2010 mewn bag cadw'n-heini[1] mewn "tŷ saff" o eiddo'r MI5 yn Pimlico, Llundain, a hynny o dan amgylchiadau amheus iawn.[2] Dywedodd Vincent Williams, ar ran Heddlu'r Metropolitan, fod yr arbenigwyr yn gwbwl gytûn y byddai'n gwbwl amhosibl i Gareth fod wedi cloi'r bag. Cred y teulu mai ymdrin â chodau cyfrin yr oedd yn ei waith pob-dydd yn Cheltenham.

Ar y 30 Mawrth, 2012 dywedodd y Crwner y Dr Fiona Fox, ei bod yn bwriadu dilyn pob trywydd a phob tystiolaeth i ble bynnag roedd yn arwain.[3]

Cynnwys

Cefndir[golygu]

Cafodd Gareth ei eni tua 1979 a gwelwyd yn fuan fod ganddo allu mathemategol anghyffredin o uchel, a dechreuodd astudio cwrs gradd allanol rhan amser ym Mhrifysgol Bangor tra roedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Bodedern. Dywedir ei fod yn feiciwr arbennig o gryf a'i fod yn ddyn preifat iawn.[4] Erbyn iddo fod yn 17 oed roedd wedi derbyn Gradd Dosbarth Cyntaf mewn mathemateg.

Marwolaeth amheus a thrist[golygu]

Mae'n ymddangos fod glanhau a chlirio tystiolaeth wedi digwydd yn y fflat lle canfuwyd corff Gareth yn y bag. Mae'r drws, bellach, wedi'i newid, a chliriwyd olion bysedd mewn dull systematig a gwnaed coc-up go iawn efo'r ychydig DNA oedd ar y bag. Ymddiheurodd y cwmni LGC wedi i un o'i staff fwydo gwybodaeth anghywir i'w gyfrifiadur.[5]

Cafodd ei gladdu ym Mhorthaethwy ar 26 Medi, 2010.

Cwest[golygu]

Un o'r ffeithiau a ddaeth allan yn y cwest i'w farwolaeth ym Mai 2012 oedd methiant MI6 â throsglwyddo llawer o eiddo Gareth Williams i Scotland Yard. Buont hefyd yn archwilio cyfryngau electronig Gareth heb ddweud wrth yr heddlu.[6]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Body of MI6 worker Gareth Williams 'locked in bag'". BBC News. 1 Medi 2010. http://www.bbc.co.uk/news/uk-england-11152467. Adalwyd 1 Medi 2010. 
  2. Gordon Rayner, Chief Reporter "Was MI6 spy-in-a-bag Gareth Williams killed by 'secret service dark arts'?", The Guardian, 30 Mawrth 2012
  3. Gordon Rayner, Chief Reporter "Was MI6 spy-in-a-bag Gareth Williams killed by 'secret service dark arts'?", The Telegraph, 30 Mawrth 2012
  4. Vikram Dodd, et al "MI6 worker murdered, stuffed in a bag and dumped in a bath", The Guardian, 25 Awstt 2010
  5. Thomas, Gordon; Sawer, Patrick (25 Medi 2010). "FBI joins investigation into MI6 spy's death". The Daily Telegraph (Llundain). http://www.telegraph.co.uk/news/uknews/8024998/FBI-joins-investigation-into-MI6-spys-death.html. 
  6. "Cwest ysbiwr - 'MI6 wedi ymyrryd â thystiolaeth", Golwg 24 (34): 8, 2012