Gareth Wynn Jones

Oddi ar Wicipedia
Gareth Wynn Jones
Ganwyd1937 Edit this on Wikidata
Deiniolen Edit this on Wikidata
Bu farw2007 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBarbarossa Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr a chynhyrchydd ffilmiau Cymraeg oedd Gareth Wynn Jones (1937 – Awst 2007). Roedd ei gwmni teledu Ffilmiau'r Tŷ Gwyn yn gyfrifol am gyfresi cynnar S4C fel Barbarossa, Cysgodion Gdansk a Lleifior. Bu'n gyfrifol am gynyrchiadau o addasiadau dramâu Saunders Lewis fel Sigarét a Brâd.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ganwyd ef ym mhentref Deiniolen yn 1937, ac yn ystod ei yrfa hir yn y cyfryngau gweithiodd gyda BBC Cymru a HTV cyn sefydlu ei gwmni ffilmiau annibynnol Ffilmiau’r Tŷ Gwyn, yn Llanllyfni, Gwynedd. Yn ystod ei gyfnod gyda'r BBC, bu'n cynorthwyo gyda sefydlu'r gyfres materion cyfoes Wales Today yn cydweithio'n agos gyda Vincent Kane.

Rhwng 1971 a 1973 bu'n cynorthwyo i sefydlu Singapore Broadcasting, ac yn cydweithio gyda llywodraeth Singapôr a staff y Llysgenhadaeth Brydeinig yno i sicrhau darlledu o safon. Tra yn HTV, bu Gareth yn gweithio ar sawl cynhyrchiad nodedig gan gynnwys y rhaglen arobryn am Frank Letch, fu'n rhan o'r gyfres Bywyd a Lloyd George gyda Ian Holm a Curious Journey gyda Kenneth Griffith.

Rhwng 1978 a 1981, Gareth oedd Cadeirydd Bwrdd Ffilmiau Cymraeg, fu'n cynhyrchu amrywiaeth o ffilmiau gan gynnwys Teisennau Mair, a enillodd wobr y Ffilm Orau yn yr Ŵyl Ffilm Geltaidd ym 1980. O 1982 hyd ei ymddeoliad ym 1997, cyfarwyddodd sawl cyfres nodedig i S4C gan gynnwys Cysgodion Gdansk (1987), Barbarossa (1989), a dwy gyfres o Lleifior.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Roedd Gareth yn briod ac Enid ac roedd ganddynt bedwar o blant. Roedd hefyd yn gogydd o safon, yn arbenigwr o winoedd ac yn deithiwr brwd. Bu farw ym mis Awst 2007.[1]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gareth Wynn Jones made a life in film. (en) , Western Mail, 18 Awst 2007. Cyrchwyd ar 5 Mawrth 2016.