Gambit y Frenhines

Oddi ar Wicipedia

Mae'r ddau Agoriad Gwyddbwyll sy'n dwyn y teitl Gambit y Frenhines, sef Gambit y Frenhines wedi'i dderbyn a Gambit y Frenhines wedi'i wrthod, wedi cael yr enw oherwydd ail symudiad gwyn, sef c4. Gyda'r symudiad hwn mae gwyn yn cynnig gwerinwr Gambit i du. Er ei fod yn dwyn yr enw Gambit, nid yw Gambit y Frenhines mewn gwirionedd yn golygu bod gwyn yn colli'r gwerinwr, gan ei fod yn medru ei ennill yn ôl y nes ymlaen yn y gêm. Mae Gambit y Frenhines yn agoriad poblogaidd iawn mewn gemau Gwyddbwyll modern. Dyma'r symudiadau cyntaf yn agoriad Gambit y Frenhines.

Agoriad d4
Agoriad d4
d5 c4
Gwyn yn agor gyda d4 (1.d4 ) Du yn ateb d4 gyda d5 (1...d5 ) Gwyn yn chwarae c4 (2.c4 )

Mae dewis gan du i naill ai derbyn y Gambit neu ei wrthod.