Gallienus

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Galienus

Publius Licinis Egnatius Gallienus (218-268) oedd ymerawdwr Rhufain o 260 hyd 268, ar ôl bod yn gyd-ymerawdwr gyda’i dad Valerian I o 253 hyd 260. Daeth yn ymerawdwr ynghanol Argyfwng y Drydedd Ganrif, a bu’n fwy llwyddiannus na’r rhan fwyaf o ymerodron y cyfnod hwn.

Yn 260 cymerwyd Valerian yn garcharor gan Sapor I, brenin Persia. Er i Gallienus glywed fod ei dad wedi ei ladd a’i flingo gan y Persiaid, ni chyhoeddodd hyn I’r boblogaeth am flwyddyn er mwyn cael amser I gryfhau ei safle.

Bathodd Gallienus lawer o arian yn ystod ei deyrnasiad, a defnyddid y darnau arian fel propaganda, yn dangos yr ymerawdwr yn fuddugoliaethus. Yr oedd gan Gallienus berthynas agos a’r athronydd neoplatoniadd Plotinus. Mae’n ymddangos I Plotinus awgrymu I’r ymerawdwr y posibilrwydd o greu cymuned athronyddol yn seiliedig ar ‘’Weriniaeth’’ Platon, ond oherwydd problemau niferus yr ymerodraeth yn y cyfnod hwn, ni wnaed yr arbrawf.

Ni lwyddodd Gallienus i ddal ei afael ar holl diriogaethau’r ymerodraeth. Bu llawer o ymladd yn y dwyrain ac yn 268 collodd Gallienus ran helaeth o Gâl pan gyhoeddodd y cadfridog Postumus ei hun yn ymerawdwr Ymerodraeth y Galiaid. Yn y brwydro yn erbyn Postumus daeth cadfridog arall, Claudius I’r amlwg ac enillodd ffyddlondeb y llengoedd.

Yr un flwyddyn ymosododd y Gothiaid ar dalaith Pannonia a bwrw ymlaen nes bygwth y brifddinas ei hun. Yr un pryd anrheithiodd yr Alemanni ogledd yr Eidal. Llwyddodd Gallienus I orchfygu’r Gothiaid mewn brwydr ym mis Ebrill 268, yna aeth tua’r gogledd i orchfygu’r Alemanni. Yna ymgyrchodd yn erbyn y Gothiaid eto, a’u gorchfygu ym mrwydr Naissus, gyda llawer o’r clod am y fuddugoliaeth yn ddyledus I’r cadfridog Aurelianus.

Er gwaethaf y llwyddiannau hyn, cododd Aureolus, pennaeth y byddinoedd yn Iliria, mewn gwrthryfel. Ymosododd ar yr Eidal a chipiodd ddinas Milan. Cyrhaeddodd Gallienus yno gyda’i fyddin a gwarchae ar y ddinas, ond ynghanol y gwarchae llofruddiwyd ef. Yr oedd sôn bod Claudius ac Aurelianus a rhan yn y cynllwyn.

Yr oedd Gallienus yn llwyddiannus iawn ar faes y gad, ond ni fedrodd uno’r ymerodraeth yn ystod ei deyrnasiad. Ar ddiwedd ei deyrnasiad yr oedd yr ymerodraeth de facto yn dair rhan, gan fod Ymerodraeth y Galiaid yn y gorllewin a thiriogaethau Zenobia yn Palmyra yn y dwyrain wedi dod yn rhydd o afael yr ymerawdwr.

O'i flaen :
Valerian I
Ymerodron Rhufain
Gallienus
Olynydd :
Claudius II