Gair rhydd
| Math | Papur newydd myfyrwyr wythnosol |
|---|---|
| Fformat | Tabloid |
| Golygydd | Chris Williams |
| Sefydlwyd | 1972 |
| Pencadlys | Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd, Caerdydd |
| Gwefan swyddogol | www.gairrhydd.com |
Papur newydd myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yw gair rhydd. Mae'n gyhoeddiad wythnosol, maint tabloid sydd yn rhad ac am ddim. Fe'i sefydlwyd ym 1972 ac fe'i olygir gan swyddog sabothol llawn amser yr Undeb Myfyrwyr. Mae adrannau'r papur yn cynnwys: Newyddion, Newyddion Bydol, Iechyd, Gwyddoniaeth, Swyddi ac Arian, Gwleidyddiaeth, Chwaraeon, Erthygl Olygyddol a Barn, colofnydd neu ddwy, tudalen "Problem" gwatwarus, 'Five minute Fun' (posau), ac amserlenni teledu. Ysgrifennir y papur yn Saesneg, ond mae yna adran fechan (fel arfer nid mwy na dwy dudalen) Cymraeg o'r enw Taf-Od.
Etholwyd y golygydd cyntaf i gael ei dalu, Meirion Jones (nawr ar y rhaglen BBC Newsnight), ym 1980.
Yn 2003, dechreuodd gair rhydd cylchgrawn pythefnosol o'r enw Quench, a enillodd "Student Publication of the Year 2005" yn yr EMAP Fanzine Awards.
Y golygyddyion cyfredol yw Oliver Smith a'r dirprwy yw Gavin Jewkes (hefyd yn olygydd Quench).
Cynnwys |
Gwobrwyon [golygu]
Mae gair rhydd wedi ennill nifer o wobrau cyfryngau myfyrwyr, y rhan fwyaf ohonynt ar ddechrau'r 1990au ac yn mwy ddiweddar fel enillwr "Best Paper" y NUS/Daily Mirror National Student Journalism Awards. Enillodd gair rhydd "Newspaper and Magazine of the Year" yn y Guardian Student Media Awards 2005 hefyd, ac enillodd y dirprwy olygydd James Anthony "Student Journalist of the Year".
Cartwnau Muhammad [golygu]
Gwaharddwyd y golygydd ar 4 Chwefror 2006 pan, yn argraffiad rhif 804, ailargraffodd gair rhydd un o'r cartwnau dadleuol o'r Proffwyd Muhammad yr oedd nifer o Fwslimiaid ar draws y byd yn credu i fod yn gableddus. Tynwyd yr argraffiad allan o gyhoeddiad o fewn diwrnod i'w ryddhau, a chyhoeddodd y golygydd ymddiheuriad yn y rhifyn dilynol.[1]
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Mohamed: Gwahardd golygydd. BBC (7 Chwefror 2006). Adalwyd ar 5 Hydref 2012.