Caffein

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Gaffein)
Caffein
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathmethylxanthine Edit this on Wikidata
Màs194.08 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₈h₁₀n₄o₂ edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia a, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c edit this on wikidata
Rhan ocellular response to caffeine, response to caffeine, paraxanthine:S-adenosyl-L-methionine 3-N-methyltransferase activity, theobromine:S-adenosyl-L-methionine 1-N-methyltransferase activity, caffeine oxidase activity Edit this on Wikidata
Yn cynnwysocsigen, carbon, nitrogen, hydrogen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adeiledd cemegol caffein.

Mae caffein (C8H10O2N4.H2O) i'w gael mewn coffi, te, coco a chola. Darganfuwyd caffein mewn coffi yn 1820. Darganfuwyd thein mewn te yn 1827 ac fe sefydlwyd yn 1838 mae'r un peth oedd thein a caffein.

Effaith Caffein ar y Corff.[golygu | golygu cod]

  • Yr ymennydd. Mae gan gaffein yr effaith o ddarwasgu gweithiennau'r ymennydd. Fe fydd caffein yn hirhau amser gwyliadwraeth ac wrth wneud gwaith meddyliol fe fydd e'n dal teimlad blinedig yn ôl. Mae e'n atal neu gwella cur pen ac yn gwneud asbirin yn fwy effeithiol.
  • Y galon. Gall gormod o gaffein (mwy na 5 cwpanaid o goffi cryf) achosi crychguriadau afreolaidd ar y galon.
  • Yr ysgyfaint. Mae caffein yn ymledu'r bronci ac yn helpu rhwystro'r fogfa. Ar y llaw arall, gall lwch coffi gwyrdd (ffa coffi heb eu rhostio) achosi'r fogfa ac allergedd y croen hefyd.
  • Y pancreas. Mae caffein yn cynyddu secretiad y pancreas. Dydy yfed te neu coffi yn gymhedrol, ddim yn ddrwg i'r ddiabetig, heblaw os oes cyflwr o bryder neu nerfusrwydd yn achosi newid rheolaeth glycogen.
  • Yr arennau. Mae gan gaffein effaith ddiuretig ond ar y llaw arall fe ddylai rhai sy'n cwyno gyda'u arennau osgoi coffi.
  • Y cyhyrau. Mae effaith caffein ar y cyhyrau yn wahanol o un person i'r llall. Mae caffein yn cyffroi'r system nerfol canolog. Fe fydd e'n parhau'r dygnedd wrth gadw'r teimlad blinedig yn ôl. Dydy caffein ddim yn gwella perfformiad corfforol. Mae caffein yn esmwytho gwaith sy'n angen cydweithrediad y corff, fel gweithio peiriant neu gyrru car. Gall gormod o gaffein achosi'r dwylo i grynu.