Gaer Fawr
Oddi ar Wicipedia
Bryngaer enfawr ym mhlwyf Cegidfa, Powys ydy'r Gaer Fawr (Cyfeirnod OS: SJ 2241513020) sydd a'i seiliau'n ddwfn yn Oes yr Haearn.[1] Saif ar gopa bryncyn tua 213 metr uwchlaw lefel y môr, tua 5.4 kilometr i'r gogledd o'r Trallwng. Siap hirgrwn sydd i'r gaer ac mae hi wedi'i gorchuddio tan goed.[2]
Mae arwynebedd y gaer oddeutu 5.8 ha [2] wedi'u hamlinellu gan y cloddiau allanol - sydd wedi'u cadw'n arbennig o dda dros y canrifoedd. Ar adegau mae'r cloddiau'n 8 metr o uchder gyda chloddiau dwbwl yn atgyfnerthu'r amddiffynfa yn y dwyrain a hyd at 5 clawdd yn atgyfnerthu'r ochr orllewinol.