Gabrielle d'Estrées a'i chwaer

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gabrielle d'Estrées a'i chwaer, 1594

Mae Gabrielle d'Estrées a'i chwaer yn llun arbennig sydd yn cael ei gadw yn y Louvre ym Mharis. Gwelir Gabrielle d'Estrées, cariad y brenin Ffrengig Harri IV, yn ymolchi gyda'i chwaer. Cafodd y llun ei beintio tua 1594.

Mae'r merched yn noeth, ond cuddir eu rhyw (fel ag oedd yn arferol hyd ddiwedd y 19fed ganrif).

Gwyddom:

  • mai Gabrielle sy'n gwisgo'r fodrwy, sef anrheg oddi wrth y brenin
  • ei bod yn feichiog oherwydd:
    • fod ei chwaer yn edrych a oes llaeth yn ei bron
    • fod y ferch yn y cefn yn gwau
    • fod y tân yn yr aelwyd, fel boliau mamau.