Gabriel García Márquez

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Gabriel García Márquez
Gabriel Garcia Marquez.jpg
Geni Gabriel José de la Concordia García Márquez
6 Mawrth,1927
Aracataca, Colombia
Marw 17 Ebrill 2014
Dinas Mecsico, Mecsico
Galwedigaeth Llenor
Cenedligrwydd Columbianwr
Math o lên Nofelau, Straeon byrion
Symudiad llenyddol Realaeth Hudol, 'Boom' America Ladin
Gwaith nodedig Can Mlynedd o Unigrwydd,
Cariad yn Amser y Colera,
Cariad a Chythreuliaid Eraill,
Cronicl y Farwolaeth Hysbys
Gwobrau nodedig Gwobr Nobel am Lenyddiaeth, 1982
Cymar Mercedes Barcha Pardo
Dylanwad Daniel Defoe, Ernest Hemingway, William Faulkner, James Joyce, Virginia Woolf, Franz Kafka
Llofnod Gabriel Marquez Signature.png

Awdur, sgriptiwr a newyddiadurwr yn enedigol o Colombia oedd Gabriel José de la Concordia García Márquez, yn ysgrifennu fel Gabriel García Márquez (ganed 6 Mawrth 1927 - 17 Ebrill 2014). Ystyrir ef yn un o brif awduron yr 20fed ganrif yn yr iaith Sbaeneg.

Ganed ef yn Aracataca, yn rhanbarth Magdalena, yn fab i Gabriel Eligio García a Luisa Santiaga Márquez. Priododd Mercedes Barcha ym 1958. Derbyniodd Wobr Ryngwladol Neustadt am Lenyddiaeth yn 1972 a rhoddwyd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth iddo yn 1982[1].

Addysgodd ei hun ac o ganlyniad peidiodd ag astudio'r gyfraith a dechreuodd weithio fel newyddiadurwr. Bu'n barod iawn i feirniadu gwleidyddion Colymbaidd a thramor. Yn 1958 priododd Mercedes Barcha; cawsant ddau o feibion, Rodrigo and Gonzalo.[2] Mae García Márquez yn adnabyddus am boblogeiddio'r arddull 'Realaeth Hudol' (magic realism), sydd yn defnyddio elfennau hudol yn ochr ac ochr â sefyllfaoedd pob dydd. Lleolir rhai o'i weithiau ym mhentref dychmygol Macondo (wedi'i ysbrydol gan ei dref enedigol Aracataca). Mae llawer o'i lyfrau hefyd yn archwilio'r thema o unigrwydd.

Disgrifiodd Pablo Neruda ei lyfr Cien años de soledad (Can Mlyedd o Unigrwydd) fel 'y mwyaf arwyddocal yn yr iaith Sbaeneg ers Don Quijote' (Cervamtes, 1547 – 1616).

Pan fu farw yn 2014 dywedodd lywydd Colombia ei fod y 'Colombianwr mwyaf mewn hanes'.[3]

Realaeth a realaeth hudol[golygu]

Mae realaeth yn thema bwysig yn holl waith García Márquez. Dywedodd o'i waith cynnar - El coronel no tiene quien le escriba, ('Sneb yn Ysgrifennu i'r Cyrnol) 1962, Los funerales de la Mamá Grande, (Angladdau y Fam Fawr) 1962 a La mala hora (Yr Amser Drwg), 1966: i gyd yn adlewyrchu realiti bywyd Columbia ac ei fod yn thema sydd yn gosod strwythur rhesymeg y llyfrau. 'Dwi ddim yn difaru eu hysgrifennu, ond maent yn perthyn i fath o lenyddiaeth disgwyliadwy sydd yn cynnig gweledigaeth rhy lonydd a chyfyngedig o realiti."[4]

Yn ei weithiau eraill mae wedi arbrofi gydag arddulliau llai traddodiadol o realiti, y pethau mwyaf anarferol yn cael eu dweud fel eu bod yn gwbl ddi-nod.[5] Un enghraifft a chyfeirir ato'n aml yw'r corff a'r ysbrydol yn esgyn i'r Nefoedd wrth hongian y dillad i'w sychu yn Cien años de soledad, (Can Mlynedd o Unigrwydd) 1967. Yn ôl yr ysgrifenwyr Cubaniadd Alejo Carpentier Mae arddull y gweithiau yn cyrraedd y 'deyrnas ryfeddol’ .[6].

Syniadaeth wleidyddol[golygu]

Mae García Márquez wedi cefnogi mudiadau ac arweinwyr progresif De America fel mudiad y Sandanistas yn Nicaragua ar ddechrau'r 1980au[7] a bu'n gyfaill personol gyda Fidel Castro.[8]

Yn ei araith 'Unigrwydd America Ladin' a draddodwyd wrth dderbyn y wobr Nobel ym 1982 cyfeirir at hanes coloneiddio ac imperialaeth ac y modd mae'r gwledydd y cyfandir yn dioddef fel canlyniad polisi tramor yr Unol Daleithiau.

Ni fynnai America Ladin na ganddi unrhyw rheswm chwaith, fod yn wystl heb awyllus ei hun. - 'Unigrwydd America Ladin', Gabriel García Márquez, 1982[9]

Llyfryddiaeth ddethol[golygu]

  • La Hojarasca, 1955. (Cwymp y dail)
  • Relato de un náufrago, 1955. (Hanes y Llongddryllwr)
  • El canibal, 1955. (Y Canibal)
  • Un día después del sábado, 1955. (Un Diwrnod ar ôl Sadwrn)
  • El coronel no tiene quien le escriba, 1962. ('Sneb yn Ysgrifennu i'r Cyrnol)
  • Los funerales de la Mamá Grande, 1962. (Angladdau y Fam Fawr)
  • La mala hora, 1966. (Yr Amser Drwg)
  • Un Señor Muy Viejo Con Unas Alas Enormes, 1966. (Hen Ddyn gydag Adenydd Mawrion)
  • Cien años de soledad, 1967. (Can Mlynedd o Unigrwydd)
  • Monólogo de Isabel viendo llover en Macondo, 1968. (Ymson Isabel yn Gwylio'r Glaw ym Macondo)
  • La increíble y triste historia de la cándida Eréndira y de su abuela desalmada, 1972. (Hanes Anhygoel a Thrist Erendria Didwyll a'i Nain Dideimlad)
  • Cuando era feliz e indocumentado, 1973. (Pan Roeddwn Llawen ac Heb Ddogfennau)
  • Chile,el golpe y los gringos, 1974. (Chile, Ergyd y Gringos)
  • Ojos de perro azul, 1974. (Llygaid y Ci Glas)
  • El otoño del patriarca, 1975. (Hydref y Patriarch)
  • Todos los cuentos (1947-1972), 1976. (Yr Holl Straeon)
  • Crónica de una muerte anunciada, 1981. (Cronicl y Farwolaeth Hysbys)
  • Textos costeños, 1981. (Straeon Glan y Môr)
  • Viva Sandino, 1982. (Sandino am Byth)
  • El olor de la guayaba, 1982. (Arogl yr Gwafa)
  • El secuestro, 1982. (Y Herwgipio)
  • El asalto: el operativo con el que el FSLN se lanzó al mundo, 1983. (Yr ymosodiad: yr ymgyrch a lansiodd yr F.S.L.N. i'r byd)
  • Erendira, 1983.
  • El amor en los tiempos del cólera, 1985 (Cariad yn Amser y Colera)
  • Las Aventuras de Miguel Littín Clandestino en Chile, 1986 (Anturiaethau Miguel Littin Cudd yn Chile)
  • El general en su laberinto, 1989. (Y Cadfridog yn ei Labrinth)
  • Doce cuentos peregrinos, 1992. (Deuddeg Hanes Pererinion)
  • Diatriba de amor contra un hombre sentado, 1994. (Geiriau Hallt yn Erbyn Dyn Eistedd)
  • Del amor y otros demonios, 1994. (Cariad a Chythreuliaid Eraill)
  • Noticia de un secuestro, 1996. (Hanes y Herwgipio)
  • Vivir para contarla, 2002. (Byw i'w Dweud)
  • Memoria de mis putas tristes, 2004. (Cofio fy Mhuteiniaid Trist)

Cyfeiriadau[golygu]