Gŵyl Daniel Owen

Oddi ar Wicipedia
Gŵyl Daniel Owen

Hanes[golygu | golygu cod]

Gŵyl ddwyieithog â gynhelir pob blwyddyn am wythnos, oherwydd ganwyd a bu farw Daniel Owen yr un mis. Sefydlwyd yr ŵyl gan John Mainwaring, dysgwr Cymraeg oedd ar Uwch Prifysgol Bangor yn Yr Wyddgrug. Roedd rhaid iddo ddarllen nofel Cymraeg ar gyfer Arholiad Lefel A, ac argymhellwyd Enoc Huws gan ei diwtor, Eirian Conlon. Ysbrydolwyd John i gynnal yr ŵyl ac i gyhoeddi cyfieithiadau'r gwaith Daniel Owen er mwyn ehangu cynnulleidfa yr awdur tu hwnt y gymuned Cymraeg.

Gŵyl 2010[golygu | golygu cod]

Lansiwyd cyfieithiad Saesneg o Enoc Huws, a hefyd lansiwyd (gan Clwyd Theatr Cymru) Gwobr Daniel Owen newydd ar gyfer ysgrifennu creadigol gan bobl ifanc. Rhoddwyd darlith gan yr Athro Derec Llwyd Morgan ar Fywyd a Chyfnod Daniel Owen. Roedd hefyd digwyddiadau yn y capeli, gweithgareddau ysgrifennu a rhaglen i ysgolion wedi'u trefnu yn ogystal â thaith gerdded o amgylch y dref o dan ofal Cymdeithas Ddinesig Yr Wyddgrug a'r Cylch. Daeth yr wythnos i ben gyda noson o gerddoriaeth fyw ar y nos Wener yn Y Pentan, a Chymanfa Ganu ar y nos Sadwrn.

Gŵyl 2011[golygu | golygu cod]

Lansiwyd 'Fireside Tales' (cyfieithiad gan Adam Pearce o Straeon Y Pentan gan Daniel Owen) a rhoddwyd Gwobr Daniel Owen yng Nghlwyd Theatr Cymru). Rhoddwyd darlith ar Enoc Huws gan Niclas Parry, ac un arall ‘The Presence of Roger Edwards’ gan ei or-or-ŵyr, Christopher Edwards. Roedd noson werin efo Pete Morton a Phentennyn, diwrnod gweithgareddau celf gan Andrea Davies, chwedlau gan Fiona Collins, taith fws, teithiau cerdded, Cymanfa Ganu a chyngerdd gan Ensemble Cymru yng Nghlwyd Theatr Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Cofnodion pwyllgor yr ŵyl

Papur Fama

Gwefan newyddion BBC

Tiwtor rhifyn 17[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

http://gwyldanielowen.com/