Gŵydd Wyran
Oddi ar Wicipedia
| Gŵydd Wyran | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anseriformes |
| Teulu: | Anatidae |
| Genws: | Branta |
| Rhywogaeth: | B. leucopsis |
| Enw deuenwol | |
| Branta leucopsis (Bechstein, 1803) |
|
Mae'r Ŵydd Wyran (Branta leucopsis) yn aelod o'r genws Branta, y "gwyddau duon", sydd a'r plu fel rheol yn ddu a gwyn, yn wahanol i'r genws Anser, y gwyddau llwyd.
Mae'n nythu ar ynysoedd yn yr Arctig fel rheol, ac mae pedair poblogaeth ohonynt ar gael:
- Nythu yn nwyrain Greenland, gaeafu yng ngorllewin Yr Alban a gorllewin Iwerddon; poblogaeth o tua 40,000.
- Nythu ar Svalbard, gaeafu ar y Solway Firth rhwng yr Alban a Lloegr; poblogaeth o tua 24,000.
- Nythu ar Novaya Zemlya, gaeafu yn Yr Iseldiroedd; poblogaeth o tua 130,000.
- Ers 1975 mae poblogaeth newydd wedi ymsefydlu, sy'n nythu ar ynysoedd yn y Baltig a gwledydd oddi amgylch ac yn gaeafu yn yr Iseldiroedd, poblogaeth o tua 8,000.
Mae'r Ŵydd Wyran yn aml yn adeiladu ei nyth ar glogwyni yn y mynyddoedd. Wedi i'r cywion ddeor maent yn neidio i lawr y clogwyn; fel rheol maent yn osgoi niwed gan eu bod mor ysgafn. Mae'r rhieni wedyn yn eu harwain i wlybdiroedd lle gallant fwydo.
Gellir gweld niferoedd bychan o'r ŵydd yma yng Nghymru. Yn y gaeaf mae rhai ohonynt yn adar sydd wedi crwydro o'u mannau gaeafu arferol, ond mae hefyd rai sydd wedi dianc o gasgliadau adar ac yn nythu yma, yn enwedig ar Ynys Môn.