Gŵydd Wyllt
| Gŵydd Wyllt | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Anseriformes |
| Teulu: | Anatidae |
| Genws: | Anser |
| Rhywogaeth: | A. anser |
| Enw deuenwol | |
| Anser anser (Linnaeus, 1758) |
|
Mae'r Ŵydd Wyllt (Anser anser) yn un o'r gwyddau mwyaf cyffredin. Ceir yr ŵydd hon yn y rhan fwyaf o wledydd Ewrop ac eithrio'r de-orllewin, a thrwy Asia cyn belled â China. Mae'n magu ei chywion ar dir gwlyb megis ar gorsdir, ar rostir neu'n agos at lyn.
Mae dwy is-rywogaeth o'r Ŵydd Wyllt:
- A. a. anser (Gŵydd Wyllt y Gorllewin)
- A. a. rubrirostris (Gŵydd Wyllt y Dwyrain)
Mae'n ŵydd fawr, 74-84 cm o hyd a 149-168 cm ar draws yr adenydd. Mae'r plu yn llwyd. Gellir adnabod y rhywogaeth yma o blith y "gwyddau llwydion" eraill trwy fod ei phig yn binc (yn y ffurf Asiaidd) neu'n binc-oren (yn y ffurf Ewropeaidd), a'i choesau'n binc. Pan mae'n hedfan mae darnau mawr o liw llawer goleuach ar yr adenydd na sydd ar adenydd gwyddau eraill.
O'r math yma o ŵydd y datblygwyd y gwyddau dôf a welir yn Ewrop a Gogledd America. Mae gwyddau dôf sydd wedi dianc yn aml yn ymuno â heidiau o Wyddau Gwylltion.
Aderyn mudol yw'r Ŵydd Wyllt fel arfer, yn magu cywion yng ngogledd Ewrop ac Asia ac yn hedfan tua'r de dros y gaeaf. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai a welir yng Nghymru yn disgyn o adar a gafodd eu rhyddhau o fwriad flynyddoedd yn ôl. Bellach, gwelir weithiau heidiau o hyd at fil o adar o gwmpas Ynys Môn a glannau'r Fenai, ac nid yw'r adar hyn yn mudo.
Bu'r naturiaethwr Konrad Lorenz yn astudio ymddygiad y rhywogaeth yma'n ddyfal. Pwrpas ei astudiaethau a'i arbrofion oedd archwilio cysyniad gwasgnodi mabol (filial imprinting). Yn ogystal ag ysgrifennu papurau gwyddonol, ysgrifennodd lyfr ar gyfer y werin ar y pwnc hwn.
Datblygwyd yr Ŵydd ddof yn Ewrop, Gogledd Affrica a gorllewin Asia o'r rhywogaeth yma.