Gütersloh

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Arfbais Gütersloh
Apostelkirche
Llyfrgell

Mae Gütersloh yn dref yn Nordrhein-Westfalen, un o Länder Gweriniaeth Ffederal yr Almaen. Gütersloh yw prifddinas Kreis Gütersloh.

Cynnwys

[golygu] Diwydiannau sylweddol

Mae Gütersloh yn dref ddiwydiannol gyda chyflogwyr sylweddol megis Miele a Bertelsmann; tu mewn i'r gylchffordd yw canol y dref sy'n cynnwys amrywiaeth o siopau a siopau adrannol.

[golygu] Adloniant

Mae gan Gütersloh ddau barc: Parc Mohns sy'n cynnwys amffitheatr, pwll padlo a sawl iard chwarae, a pharc mwy, y Stadt Park ("parc y dref"), sy'n cynnwys llyn badau, gardd fotanegol a llawer o lwybrau wedi eu hymylu gyda choed aeddfed.

Mae gan y dref bedwar pwll nofio, gan gynnwys un o faint Olympaidd.

[golygu] Gefeilldrefi

[golygu] Gwersyll Awyrlu Gütersloh

Roedd gwersyll yr Awyrlu Brenhinol yn Gütersloh yn gartref tan gwymp Mur Berlin i Sgwadronau 3 a 4, a ddefnyddiai'r VTOL Harrier gyda chefnogaeth hofrenyddion Chinook Sgwadron 18 a hofrenyddion Puma Sgwadron 230. Roedd yno hefyd staff o Gatrawd yr Awyrlu Brenhinol a ddarparodd cefnogaeth taflegrau daear i awyren. Roedd RAF Gütersloh un o'r wersylloedd awyr NATO mwyaf dwyreiniol yn ystod y Rhyfel Oer.

Yn wreiddiol adeiladwyd y gwersyll awyr ar gyfer y Luftwaffe a ddefnyddiai Bomwyr Junkers yno. Caewyd RAF Gütersloh ym 1993.

[golygu] Gwersyll Gütersloh y Fyddin Brydeinig

Cymerodd y Fyddin Brydeinig dosodd ym 1993 a chafodd RAF Gütersloh ei ailenwi fel y Princess Royal Barracks, Gütersloh.

Flag of Germany.svg Eginyn erthygl sydd uchod am yr Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Offer personol
Parthau

Amrywiolion
Gweithrediadau
Panel llywio
Blwch offer
Ieithoedd eraill