Gïach Bach
Oddi ar Wicipedia
| Gïach Bach | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Charadriiformes |
| Teulu: | Scolopacidae |
| Genws: | Lymnocryptes |
| Rhywogaeth: | L. minimus |
| Enw deuenwol | |
| Lymnocryptes minimus (Brunnich, 1764) |
|
Aelod o deulu'r Scolopacidae (rhydyddion) yw'r Gïach Bach neu Gïach Fach (Lymnocryptes minimus). Mae'n nythu mewn gwlyptiroedd ar draws gogledd Ewrop a Rwsia. Yn y gaeaf, mae'n symud tua'r gorllewin a thua'r de, cyn belled ag Affrica ac India. Mae'n aderyn tebyg iawn i'r Gïach Cyffredin, ond yn llai, ac mae'r pig yn fyrrach.
Yng Nghymru, ceir niferoedd bychan yn gaeafu, ond mae'n llawr llai niferus na'r Gïach Cyffredin.