Frome

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cyfesurynnau: 51°13′40″N 2°19′17″W / 51.2279°N 2.3215°W / 51.2279; -2.3215

Frome
Frome is located in Y Deyrnas Unedig
Frome

Frome
Poblogaeth 24,050 
Swydd Gwlad yr Haf
Rhanbarth
Gwlad Lloegr
Gwladwriaeth sofran Y Deyrnas Unedig
Tref bost FROME
Cod deialu 01373
Yr Heddlu
Tân
Ambiwlans
Senedd yr Undeb Ewropeaidd De Orllewin Lloegr
Senedd y DU Somerton and Frome
Rhestr llefydd: y DU • Lloegr •

Plwyf gwaladol a thref maint canolig yn ardal Mendip, Gwlad yr Haf, Lloegr ydy Frome (Cymraeg: Ffraw). Lleolr tua 13 milltir i'r de o Gaerfaddon, ar ben dwyreiniol y Mendip Hills. Amgylchynir canol y dref gan fryniau, a llifai'r Afon Frome drwyddi. Mae Caerdydd 65.7 km i ffwrdd o Frome ac mae Llundain yn 157.7 km. Y ddinas agosaf ydy Caerfaddon sy'n 17.2 km i ffwrdd.

O tua 950 hyd 1650, roedd Frome yn fwy na Chaerfaddon, tyfodd yn wreiddiol oherwydd y diwydiant gwlan a brethyn. Amrywiaethodd yn ddiweddarach gan gynnwys diwydiannau gweithio metel ac argraffu.

Mae'r dref wedi tyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar, ond mae'n dal yn garref i nifer o adeiladau rhestredig, ac mae'r rhanfwyaf o ganol y dref o fewn ardal cadwraeth. Er ei fod yn blwyf arwahan, mae'r dref erbyn hyn yn cynnwys y rhanfwyaf o bentref Selwood sydd erbyn hyn yn faesdref.

Hanes[golygu]

Does brom dim tystriolaeth y bu anheddiad cynhanesyddol neu Rufeinig yn yr ardal. Y dystiolaeth gynharaf o anheddiad Frome, Froome bryd hynnu, Sacsonaidd yw mynachlog ag adeiladwyd gan Sant Aldhelm yn 685. Mae'n edrych fel petai brenhinoedd Sacsonaidd wedi defnyddio Frome fel canolfan er mwyn hela yng Nghoedwig Selwood ac yn 934, cyhaliwyd witenagemot yno, gan ddangos y bu Frome eisioes yn le o gryn faint.[1]

Yn ystod adeg y Arolwg Dydd y Farn, roedd y faenor yn eiddo i William I, brenin Lloegr, ac yn brif anheddiad cantref mwyaf a chyfoethocaf Gwlad yr Haf. Dros y blynyddoedd canlynol, rhanwyd y faenor gwreiddiol, gyda rhai rhannau'n dod yn faenori yn gwbl arwahan, er engraifft, roedd un yn eiddo i'r gadeirlan, a pasiodd ymlaen yn ddiweddarach i Abaty yn Cirencester, a prydlewsywd maenorau eraill gan y Goron i deuluoedd pwysig. Erbyn yr 13edd ganrif, roed yr Abaty wedi prynnu rhai o'r maenorau eraill, gan ddefnyddio'r elwau o'r farchnad a'r fasnach yn y dref.[1]

Yn ôl traddodiad lleol, bu Frome yn fwrdeistref canoloesol, a cyfeirir at rif Frome rwan ac yn y man mewn dogfennau wedi teyrnasiad Edward I, ond does dim tystiolaeth uniongyrchol y bu Frome yn fwrdeistref a does dim golwg o unrhyw siarter a roddwyd iddi. Ond, rhoddod Harri VII siarter i Edmund Leversedge, arglwydd y faenor, gan roi hawl iddo gynnal ffeiriau rhwng 22 Gorffenaf a 21 Medi.

Cyn dŷ-lliwio, sydd erbyn hyn yn ganolfan gwybodaeth i ymwelwyr.

Sefydlwyd gweithgynhyrchiad defnydd gwlan fel prif ddiwydiant y dref yn y 15fed ganrif,[1][2] ac arhosodd Frome yr unig dref yng Ngwlad yr Haf lle ffynnodd y brif ddiwydiant hon.[3] Yn raddol, daeth teuluoedd y brethynwyr yn brif berchnogion tir yn y dref, â maenor Frome ei hun yn dod yn eiddo i fasnachwr brethyn ym 1714.

Bu ehangiadau mawr rhwng 1665 ac 1725, gan gynnwys adeiladu maestref newydd ar gyfer y crefftwyr i'r gorllewin o Trinity Street.[4] Dywedodd Daniel Defoe fod y dref:

"so prodigiously increased within these last 20-30 years, that they have built a new church, and so many new streets of houses, and those houses are so full of inhabitants, that Frome is now reckoned to have more people in it than the city of Bath, and some say, than even Salisbury itself, and if their trade continues to increase for a few years more ... it is likely to be one of the greatest and wealthiest towns in England."

Ar 27 Mehefin 1685, gwersyllodd lluoedd Dug Mynwy yn Frome, ac yn dilyn Gwrthryfel Mynwy, crogwyd 12 o ddynion yn y dref.[5]

Ond, oherwydd tlodi, dirywiad y ddiwydiant gwlan yn yr 18fed ganrif, a chynnydd mewn diwydiannaeth a phrisiau bwyd, bu aflonyddwch ymysg trigolion Frome, a bu nifer o derfysgoedd yn ystod y ganrif hwnnw. Erbyn 1791, disgrifwyd y dref mewn termau llai gwenieithol a'r rhai a ddefnyddiwyd gan Defoe 70 mlynedd ynghynt.[1]

Datblygwyd cynlluniau i ailfywiogi'r dref yn yr 19eg ganrif, ac iw dychwelyd iw hen safle o fod yn dref pwysicach na Chaerfaddon. Syniad dyn busnes lleol, Thomas Bunn, oedd y cynlluniau rhain, a methont yn gyffredinol i ddod i ffrwyth, ond codwyd rhai adeiladau cyhoeddus a torrwyd ffordd newydd lydan i arwain i'r dref (a enwyd yn Bath Street ar ôl y perchennog tir, Arglwydd Caerfaddon, sef Lord Bath o Longleat House).[6]

Cyn weithfeydd argraffu Butler and Tanner, Selwood.

Tra parhaodd gwlad i fod yn elfen bwysig o economi'r dref yn yr 19eg ganrif (ac i'r 20fed ganrif hyd yn oed), sefydlwyd diwydiannau eraill yn y dref yn ogystal. Sefydlwyd ffowndri clychau ym 1684 gan William Cockey, a dyfodd i dod yn brif gynhyrchydd darnau ar gyfer datblygu'r diwydiant nwy ac yn gyflogydd i 800 o bobl. Sefydlwyd ffowndri pres J W Singer[7] a gweithfeydd castio efydd gan J. W. Singer ym 1854, roeddent yn un o brif gyflogwyr y dref a cynhyrchodd y cwmni nifer o gerfluniau efydd adnabyddus megis "Justice" yn yr Old Bailey, Llundain. Argraffu oedd un o'r prif ddiwydiannau eraill, gyda sefydliad gweithfeydd argraffu Butler and Tanner yng nghanol yr 19eg ganrf. Daeth bragu hefyd yn gyflogaeth yn y dref.[6]

Llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus[golygu]

Frome yw tref fwyaf di-metropolitan yn ardal Mendip Gwlad yr Haf, er mai Shepton Mallet yw'r ganolfan gweinyddiaeth. Cyn 1974, gweinyddwyd gan Ddosbarth Trefol Frome.[8]

Mae'r dref yn ethol tri aelod i Gyngor Sir Gwlad yr Haf, pob un o ranbarth gwahanol y sir. Yn yr etholiad diwethaf ym mis Mehefin 2009, etholwyd y Democratiaid Rhyddfrydol yn ardaloedd Frome South a Frome Selwood, a'r Ceidwadwyr yn Frome North.[9] Mae gan Frome hefyd 11 o gynghorwyr ar Gyngor Dosbarth Mendip, dau o pob ward y dref heblaw Oakfield, sy'n ethol ond un. Yn dilyn etholiadau 2008, roedd pob un o'r 11 o gynhorwyr yn Ddemocratiaid Rhyddfrydol.[10]

Mae plwyf gwladol Frome wedi ymdopi arddull plwyf trefol, mae Cyngor Tref gyda 17 o aelodau. Rhnnir y cynghorwyr rhwng 6 ward, tri ar gyfer Berkley Down, College, Keyford, Market a Park Wards, a dau ar gyfer Ward Oakfield. Cynhaliwyd yr etholiadau diweddaraf ym mis Mai 2007, ac yn dilyn hynnu mae deg cyngorwr Democratiaid Rhyddfrydol, pump Ceidwadol, un Llafur ac un annibynnol.[11]

Mae gan Frome ddau efeilldref: Château-Gontier, Ffrainc a Murrhardt, yr Almaen.

Ni gynhyrchiolwyd y dref yn y Senedd tan i Ddeddf Diwygio 1832 roi un aelod yn y Tŷ Cyffredin iddynt. Diddymwyd cynyrchiolaeth arwahan yn etholiad cyffredinol 1950, gyda Frome yn dod yn ran o etholaeth Wells, tra bod gweddill ei hen etholaeth yn dod yn ran o etholaeth newydd Gogledd Gwlad yr Haf. Bu newidiadau pellach yn etholiad cyffredinol 1983 pan grewyd yr etholaeth presennol, Somerton a Frome. Y cynyrchiolydd presennol yw'r AS Rhyddfrydol, David Heath CBE, er fod y Ceidwadwyr wedi cystadlu'n gryf am y sedd ers nifer o flynyddoedd. Yn ystod etholiad 2005, pan bleidleisiodd 70% o'r etholwyr, enillodd David Heath o fwyafrif bach iawn o 812 pleidlais (1.5% o'r cyfanswm).[12]

Mae Frome yn ran o Etholaeth seneddol Ewrop, De Orllewin Lloegr, sy'n wthol chwe Aelod o Senedd Ewrop gan ddefnyddio dull d'Hondt o gynrychiolaeth cyfraneddol rhestr-plaid.

Mae gan y dref ysbyty gymunedol GIG newydd, a weithredir gan Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Gwlad yr Haf, lleolir ar hen safle mae sioe Fromefield.[13] Agorwyd yr ysbyty yn 2008, gan gymryd lle hen Ysbyty Victoria Frome, Park Road a ddefnyddiwyd ers 1901. Lleolir yr ysbyty gyffredinol agosaf yng Nhaerfaddon.

Daearyddiaeth[golygu]

Adeiladir Frome yn anwastad ar dir uchel uwchben Afon Frome, a groesir gan bont 16ed ganrif yng nghanol y dref. Mae canol y dref tua 65 medr uwchben lefel y môr, tra bod rhannau o gyrion y dref rhwng 90 ac 135 medr uchben lefel y môr.[14]

Prif ardalodd y dref yw Innox Hill, Welshmill, Packsaddle, Fromefield, Stonebridge, Clink, Berkley Down, Easthill, Wallbridge, The Mount, Keyford and Lower Keyford, Marston Gate, The Butts, Critchill, Trinity, a Gould's Ground.[14]

Er nad yw coedwig brenhinol Selwood yn bodoli bellach, mae'r cefn gwlad ger llaw yn dal i fod yn goediog a chyfoethog, er engraifft ar ystadau Longleat, Maiden Bradley a Stourhead.

I'r gorllewin or' dref, ar ymylon y Mendip Hills, mae nifer o chwareli mawr carreg galch sy'n weithgar, megis Chwarel Whatley a Chwarel Merehead, ynghyd a nifer o chwareli sydd ar gau. Gwasnaethir y chwareli gan reilffordd dynoededig Mendip Rail, sy'n ganghen a dorrai oddiwrth y brif linell yn Frome, ac sy'n teithio drwy ganol y dref drwy ardaloedd Welshmill a Spring Gardens yng ngogledd orllewin y dref.

Demograffeg[golygu]

Roedd gan Frome boblogaeth o 12,240 yng Nghyfrifiad 1831, ond erbyn 1901 roedd hyn wedi disgyn i 11,057, arhosodd rhwng 11,000 a 12,000 tan yr 1970au. Ers hynnu mae'r boblogaeth wedi cynnyddu'n sylweddol, gan gyrraedd dros 23,000 ym 1991.[1]

Roedd poblogaeth o 24,510 yng Nghyfrifiad 2001, 11,863 (48.4%) ohonnynt yn wrywaidd a 12,647 (51.6%) yn fenywaidd. Roedd 7,674 (31.3%) o dirgolion yn 16 oed neu iau, 13,150 (63.3%) rhwng 16 a 65 oed, a 3,686 (15.0%) yn 65 oed neu'n hŷn.[15]

Roedd 11,580 (67%) o'r boblogaeth rhwng 16 a 74 oed mewn cyflogaeth, a dim ond 513 (3%) yn ddi-waith (y gweddill yn anactif yn economaidd). Roedd tua 68% o'r rheiny mewn cyflogaeth yn gweithio yn y diwydiannau gwasanaeth, a'r gweddill yn y diwydiant gweithgynhyrchu. Cyflogwyd 4,323 mewn swyddi rholi neu proffesiynol, roedd 1,362 yn hunan-gyflogedig a 4,635 mewn cyflogaeth rheolaidd a rhanol-reolaidd.

Cofnodwyd 10,198 aelwyd yn y dref, 7,679 (75%) ohonnynt yn eiddo i'r preswylwyr, 981 (10%) wedi eu rhentu gan berchnogion preifat, a 1,538 (15%) wedi eu rhentu gan lywodraeth lleol neu berchenog cymdeithasol arall. Roedd 10,122 (99.3%) pen-teulu yn dod o dras gwyn.

Economi[golygu]

Mae'r diwydiannau gweithio metel ac argraffu a ddisodlodd gwlan fel prif ddiwydiant Frome wedi dirywio, ond nid ydynt wedi gadael y dref. Mae cwmni Singers yn dal i fodoli yn y dref, yn ogystal a Butler and Tanner, er bod rhain wedi dioddef anhawsterau riannol yn ystod tirwasgiad 2008, gan eu gorfodi i ddiswyddo cyfran uchel o'u gweithwyr.

Mae bron i hanner o boblogaeth Frome sy'n weithgar yn economaidd yn cymudo i weithio tu allan i'r dref (i Gaerfaddon, Bryste, Warminster, Westbury neu ymhellach). Mae tua 2,700 o bobl yn cymudo i fewn i'r dref i weithio. Nid oes gan rhan helaeth o'r weithlu unrhyw gymhwysterau ffurfol ac maent â sgiliau gwael, gan eu gwneud yn archolladwy i ddirywiad mewn gwaith gweithgynhyrchu.[16] Does dim cyflogaeth o bwys iw gael gan y llywodraeth leol yn y dref, y prif gyflogwyr yn y parth cyhoeddus yw'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ac ysgolion.[17]

Mae canol tref Frome yn cynnwys nifer cymhedrol o siopau annibynnol, ac ychydig iawn o siopau cadwyn. Mae'r adwerthu wedi ei anelu yn bennaf at wasnaethu anghenion y boblogaeth leol, ar gyfer bwyd, dillad, iechyd a harddwch, DIY ac ychydig o offer trydanol. Er hynnu, mae astudiaethau wedi dangos mai ond chwarter o boblogaeth y dref a siopai am unrhywbeth heblaw bwyd yn y dref. Mae hefyd sawl cangen banc a chymdeithasau adeiladu yng nghanol y dref.[16][17]

Cynhelir marchnadau yn y dref ar ddyddiau Mercher a Sadwrn, rhai ym mae parcio Market Yard ac eraill yn hen warws amaethyddol Cheese and Grain. Symudodd marchnad gwartheg sydd Sadwrn o ganol y dref i Standerwick ger llaw yn yr 1980au. Yn 2003, enillodd Frome statws Tref Masnach Rhydd.[18]

Pobl o nôd[golygu]

Pobl a anwyd yn Frome[golygu]

Pobl a weithiodd yn Frome[golygu]

Trigolion Frome[golygu]

Diwylliant[golygu]

Mae Cheap Street Frome yn leoliad ym mhennod chwech o gyfres cyntaf comedi'r BBC, The Fall and Rise of Reginald Perrin.[23]

Mae Frome hefyd wedi cyflenwi'r cefndir ar gyfel nifer o ddramâu hanesyddol, megis Drover's Gold, a ffilmwyd gan BBC Cymru ym 1996.[24]

Datblygiadau'r dyfodol[golygu]

Mae nifer o ddatblygiadau tai wedi bod yn Frome, nifer rhain ar gym-safleydd diwydiannol, mae rhain yn parhau i gael eu adeiladu gyda 600 o dai yn Saxonvale a Garsdale.[17]

Datblygwyd cynllun ar gyfer datblygu Frome, sef Vision for Frome 2008-2028, mewn ymgynghoriaeth gyda'r bobl lleol yng ngwanwyn 2008, a dderbyniodd 3,000 o ymatebion.[17]

Ym mis Rhagfyr 2008, roedd Cyngor Dosbarth Mendip a Phartneriaeth Strategol Mendip yn ymgynghori ynglyn a Strategaeth y Gymuned a Fframwaith Datblygiad Lleol ar gyfer y cyfnod hyd 2026, sy'n cynnwys adeiladu 2,500-2,600 o dai newydd, a chyflenwi cyflogaeth a lle swyddfa, datblygu ysgol uwchradd a dau ysgol gynradd newydd, adlunio canol y dref a hybu ystod ehangach o adwerthwyr a chyflenwyr cyfleusterau hamdden i'r dref.[16]

Oriel luniau[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4  Clare Gathercole (2003). Frome. Somerset Urban Archaeological Survey. Somerset County Council. Adalwyd ar 2008-09-29.
  2.  History of Frome Town. Frome Town. Adalwyd ar 30 Medi 2008.
  3. Peter Bejham (1985). The making of Frome. Frome society for local study
  4. Michael Havinden. The Somerset Landscape, The making of the English landscape. Llundain: Hodder and Stoughton, tud. 215. ISBN 0340201169
  5.  Tim Lambert. A brief history of Frome. Local histories.org. Adalwyd ar 30 Medi 2008.
  6. 6.0 6.1 Rodney Goodall. The buildings of Frome. Frome: Frome society for local study, tud. 149. ISBN 0951015753
  7. J W Singer
  8.  Frome Urban District. A Vision of Britain Through Time.
  9.  Councillors. Cyngor Sir Gwlad yr Haf (Mehefin 2009).
  10.  Mendip District Council Councillors. Cyngor Dosbarth Mendip (2008).
  11.  Frome Town Council. Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2008.
  12.  Election Results: Somerton & Frome. BBC (2005). Adalwyd ar 29 Medi 2008.
  13.  Frome Community Hospital]. Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Gwlad yr Haf.
  14. 14.0 14.1 Ordnance Survey 1:25,000 scale map, grid reference ST775475
  15.  Parish Population Statistics. ONS Census 2001. Somerset County Council. Adalwyd ar 14 Rhagfyr 2009.
  16. 16.0 16.1 16.2  Time to Plan Consultation Paper: Mendip Sustainable Community Strategy. Mendip District Council. Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2008.
  17. 17.0 17.1 17.2 17.3  Community Strategic Plan for Frome 2008-2028. Vision For Frome (2008). Adalwyd ar 30 Rhagfyr 2008.
  18. "Frome". Somerset Fair Trade Network. http://www.somersetfairtrade.org.uk/frome.htm. Adalwyd 2008-09-29. 
  19.  Andrew Baker (19 Hydref 2009). Jenson Button's home town of Frome to immortalise Formula 1 World Champion. Daily Telegraph. Adalwyd ar 21 Hydref 2009.
  20.  News (2007). Adalwyd ar 22 Chwefror 2009.
  21.  And the bride wore black: Pearl Lowe finally ties the knot at weird and wacky pagan wedding. Daily Mail (9 Rhagfyr 2009).
  22. 22.0 22.1  Somerset: Celebrities. BBC. Adalwyd ar 18 Ionawr 2010.
  23.  The Fall and Rise of Reginald Perrin. Internet Movie Database. Adalwyd ar 14 Hydref 2008.
  24.  BBC Wales on Location in Frome. Frome Town. Adalwyd ar 14 Hydref 2008.

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i:

Mae'r erthygl hon yn cynnwys cyfieithiadau o 11fed rhifyn yr Encyclopædia Britannica, cyhoeddiad sydd erbyn hyn y parth cyhoeddus.