Freetown
Oddi ar Wicipedia
Freetown yw prifddinas Sierra Leone yng Ngorllewin Affrica. Mae hefyd yn borthladd pwysig ar Fôr Iwerydd, yn allforio pysgod, reis, olew a diemwntau. Roedd y boblogaeth yn 2004 yn 1,070,200.
Sefydlwyd Freetown yn 1792 gan gyn-gaethweision o Nova Scotia, dan arweiniad Thomas Peters. Ychwanegwyd at y boblogaeth gan bobl a ryddhawyd oddi ar longau caethweision wedi diddymu'r fasnach gaethweision. O 1808 hyd 1874, roedd yn brifddinas Gorllewin Affrica Brydeinig.
Bu llawer o ymladd yn y ddinas tua diwedd yn 1990au.
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Amgueddfa Genedlaethol Rheilffordd
- Coleg Bae Fourah
- Eglwys gadeiriol
- Ysbyty Connaught
Enwogion [golygu]
- Adelaide Casely-Hayford (1868-1960), athrawes
- I. T. A. Wallace-Johnson (1895-1965), gwleidydd