Frederick Barter

Oddi ar Wicipedia
Frederick Barter
Ganwyd17 Ionawr 1891 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mai 1952 Edit this on Wikidata
Poole Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson milwrol Edit this on Wikidata
Gwobr/auCroes Fictoria, Croes filwrol, Croes St. George, Rwsia Edit this on Wikidata

Roedd Frederick Barter VC MC (17 Ionawr 189115 Mai 1952) yn dderbynnydd Cymreig o Groes Fictoria[1], y wobr uchaf a mwyaf mawreddog am ddewrder yn wyneb y gelyn y gellir ei ddyfarnu i luoedd Prydain a'r Gymanwlad.

Cafodd ei eni yng Nghaerdydd yn fab i Samuel Barter ag Emily ei wraig. Cyn y rhyfel bu'n gweithio fel llafurwr [2] ac yng Ngwaith Nwy Caerdydd[3].

Roedd yn uwch-ringyll cwmni 24 oed ym Mataliwn 1af y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf pan ddigwyddodd y weithred a arwiniodd at ddyfarnu'r VC iddo.

Ar 16 Mai, 1915 tra yn Festubert, Ffrainc, llwyddodd Barter ac wyth o wirfoddolwyr i ymosod ar linell gyntaf ffosydd yr Almaen gyda bomiau, gan ddal tri swyddog Almaenaidd, 102 o ddynion a 500 llath o'u ffosydd, wedyn daeth o hyd i 11 o ffrwydron y gelyn wedi eu lleoli pob yn ugain llath a llwyddodd i'w diarfogi.

Cafodd ei gomisiynu yn Ail Is-gapten yn Y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar 26 Awst 1915.

Ar y 16 Mawrth 1917 cafodd ei secondio i Fyddin yr India. Cafodd ei ddyrchafu'n Is-gapten ar 26 Mai, 1917.

Derbyniwyd ef yn aelod o Fyddin yr India ar y 6 Mai 1918 a dyrchafwyd ef yn gapten ar 26 Mai 1920. Ymadawodd ar fyddin ar 5 Tachwedd 1922.

Yn ogystal â Chroes Victoria dyfarnwyd iddo hefyd Y Groes Filwrol a medal Rwsiaidd Croes San Siôr. Mae ei Groes Fictoria yn cael ei arddangos yn Amgueddfa'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yng Nghastell Caernarfon.

Bu farw a chafodd ei gladdu yn Pool, Swydd Dorset

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. VCs of the First World War - The Western Front 1915 (Peter F. Batchelor & Christopher Matson, 1999)
  2. Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad 1911 RG14/32106 Rhif 271
  3. Yr Udgorn 7 Gorffennaf 1915 T3 Manion adalwyd 27 Tachwedd 2014