Franklin Winfield Woolworth

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Gŵr busnes Americanaidd oedd Franklin Winfield Woolworth (13 Ebrill 1852 - 8 Ebrill 1919). Mae'n enwog fel sefydlydd cadwyn siopau Stryd Fawr Woolworths.

Ganed F. W. Woolworth yn Rodman, Swydd Jefferson, Efrog Newydd, ar 13 Ebrill 1852, a threuliodd ei ieuenctid yn gweithio fel gwas fferm cyn cael gwaith fel cynorthwydd mewn siop. Cafodd gefnogaeth ei gyflogwyr i agor siop yn Utica yn 1879. Ei syniad arloesol oedd y byddai'r siop yn gwerthu nwyddau a gostiai lai na 5 cent yn unig. Methiant fu'r siop gyntaf, ond agorodd ail siop yn Lancaster, Pennsylvania, yn nes ymlaen, yn gwerthu nwyddau am 10 cent neu lai.

Gyda chymorth ei deulu ac eraill, aeth ati i agor cadwyn o siopau cyffelyb yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau. Erbyn ei farwolaeth yn 1919, roedd gan Gwmni F.W. Woolworth dros fil o siopau yn cael eu rhedeg o bencadlys y cwmni yn Adeilad Woolworth yn Ninas Efrog Newydd. Sefydlwyd y gangen gyntaf ym Mhrydain yn 1910, ond dim ond ar ôl marw Woolworth ei hun y dechreuodd siopau Woolworths ymddangos ar y Stryd Fawr ledled Prydain.

Baner United StatesEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.