Frank Price Jones

Oddi ar Wicipedia
Frank Price Jones
Ganwyd1920 Edit this on Wikidata
Bu farw1975 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata

Hanesydd Cymreig oedd Frank Price Jones (19201975), a aned yn nhref Dinbych. Yn ystod ei yrfa bu'n ddarlithydd prifysgol, yn ddarlledwr, yn olygydd, ac yn awdur sawl llyfr ac erthygl ar hanes Cymru a Sir Ddinbych.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Frank Price Jones yn Ninbych ym 1920. Cafodd ei addysg yn ysgolion y dref honno ac ym Mhrifysgol Bangor. Yn heddychwr argyhoeddedig, ceisiodd wasanaethu yn y gwasanaethau amddifyn cartref yn yr Ail Ryfel Byd ond fe'i gwrthodwyd am resymau meddygol. Dechreuodd gynnal dosbarthiadau i'r WEA yn Nyffryn Clwyd ac ar ôl y rhyfel bu'n athro yn Ysgol Brynhyfryd, Rhuthun.

O 1947 ymlaen gweithiai yn Adran Allanol Coleg y Brifysgol ym Mangor fel darlithydd hanes Cymru. Cyfrannai at raglenni Radio Cymru ac at raglenni teledu hefyd yn nes ymlaen. Roedd yn edmygydd mawr o'r cyhoeddwr radicalaidd Thomas Gee, yntau'n frodor o Ddinbych. Cyfranodd lawer o erthyglau i'r Faner, dan y ffugenw 'Daniel', o 1956 hyd ei farwolaeth. Mae ei lyfrau eraill yn cynnwys dwy gyfrol ar Sir Ddinbych yn y gyfres Crwydro Cymru.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]