Francis Jayne

Oddi ar Wicipedia
Francis Jayne
Ganwyd1 Ionawr 1845 Edit this on Wikidata
Llanelli Edit this on Wikidata
Bu farw23 Awst 1921 Edit this on Wikidata
Croesoswallt Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Edit this on Wikidata
SwyddEsgob Caer Edit this on Wikidata

Roedd Francis John Jayne (1 Ionawr 184523 Awst 1921) yn offeiriad Anglicanaidd Cymreig a wasanaethodd fel Prifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan ac fel Esgob Caer.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jayne yn Llanelli, Sir Frycheiniog (Sir Fynwy bellach) yn fab i John Jayne, perchennog glofa, ac Elisabeth (née Hains) ei ail wraig.[2]

Addysg[golygu | golygu cod]

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Rugby a Choleg Wadham, Rhydychen, lle graddiodd efo gradd dosbarth cyntaf yn ‘’Literae Humaniores’’ (astudiaeth o ieithoedd, hanes ac athroniaeth glasurol Groeg a Rhufain) ym 1865. Graddiodd, efo gradd dosbarth cyntaf eto, ym 1868 mewn Cyfreitheg a Hanes Cyfoes. Ym 1868 daeth yn gymrawd Coleg yr Iesu Rhydychen.

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd Emily Sarah, merch hynaf Watts John Garland. Bu iddynt chwe mab a thair merch.

Priododd chwaer Watts John, Mary Garland, ag Alfred George Edwards, Archesgob cyntaf Cymru.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ym 1870 ordeiniwyd Jayne fel offeiriad Eglwys Loegr gan gael ei benodi yn gurad Eglwys St Clemence, Rhydychen. Ym 1871 cafodd ei benodi yn diwtor yng Ngholeg Kebel, Rhydychen.

Coleg Llanbed[golygu | golygu cod]

Ym 1879 cafodd ei benodi'n brifathro Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan; coleg diwinyddol ar gyfer paratoi dynion i’r offeiriadaeth Anglicanaidd. Yn ystod ei brifathrawiaeth llwyddodd Jayne i godi bri'r coleg. Llwyddodd i greu cysylltiadau rhwng Coleg Dewi Sant a Cholegau Rhydychen a Chaergrawnt; adeiladodd neuaddau preswyl newydd a dyblodd nifer yr efrydwyr.

Awgrymodd Adroddiad yr Arglwydd Aberdâr (1881) cysylltu Coleg Dewi Sant a Phrifysgol Aberystwyth. Roedd yn anghyfreithiol, ar y pryd, i golegau “enwadol” cael nawdd o’r llywodraeth.

Barn y Y Pwyllgor i Ymchwilio i Addysg Ganolradd ac Uwchradd yng Nghymru, oedd bod Coleg Llanbed yn cynnig addysg o’r safon uchaf a byddai modd cefnogi Coleg Llanbed o gael ei huno ag Aberystwyth fel cyd goleg oedd yn cynnig mwy nag addysg enwadol. Roedd yr enwadau anghydffurfiol yn gandryll yn erbyn y syniad. Roedd Jayne hefyd yn gandryll yn erbyn y syniad.

Yn hanes yr anghydffurfwyr Cymreig, llwyddodd yr anghydffurfwyr Cymreig i fethu caniatáu i Lanbed dod yn rhan o Brifysgol Cymru ym 1881.

Yn hanes Eglwys Loegr (a Choleg Llanbed) Jayne bu awdur annibyniaeth Coleg Llanbed.

Esgob Caer[golygu | golygu cod]

Ymddiswyddodd Jayne o brifathrawiaeth Llanbed ym 1886, ar gael ei benodi’n Ficer plwyf Leeds. Plwyf enfawr, nad oedd yn ddinas ar y pryd. Dwy flynedd yn niweddarach cafodd ei benodi'r Esgob Caer.

Ymddeolodd o’r Esgobaeth ym 1919 wedi torri ei iechyd.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu Jayne farw yng Nghroesoswallt ym 1921, a chladdwyd ei weddillion yn Eglwys Bowden, Caer.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. T. W. Price, ‘Jayne, Francis John (1845–1921)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Jan 2007 accessed 21 May 2017
  2. JAYNE , FRANCIS JOHN ( 1845 - 1921 ), esgob adalwyd 21 Maii 2017