François Falc'hun

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Ieithydd a dorrai ei gŵys ei hun oedd François Falc'hun (hefyd Frañsez Falc'hun) (1901 - 1991) a adnabyddir oherwydd ei gysyniadau unigryw a dadleol am y Llydaweg. Roedd yn Athro ym Mhrifysgolion Rennes a Brest. Yn wahanol i farn ieithwyr eraill, credai François Falc'hun mai o'r Galeg y tarddodd y Llydaweg ac nid o Frythoneg y mewnlifiad i Lydaw o Ynys Prydain. Iaith y Celtiaid yng ngorllewin a chanolbarth Ewrop, yn bennaf yn y rhanbarth a adnabyddir fel Gâl) oedd y Galeg. Roedd Falc'hun hefyd yn offeiriad Pabyddol.

Roedd ei feirniaid yn honi fod agenda gwleidyddol i'w syniadau er mwyn hybu cenedlaetholdeb Ffrengig.

Syniadau[golygu]

Roedd gwaith cynnar Falc'hun yn cynnwys gwaith ar Jean-Marie Perrot. Roedd ef wedi creu orgraff arbennig a elwir yn Orgraff y Brifysgol; disgwylid y byddai'r orgraff hwnnw yn cymryd drosodd oddi wrth y sillafu "Perunvan", a ddefnyddiwyd rhwng 1911 ac 1941. 'Doedd ei sillafu ef (Falc'hun) ddim yn cydnabod y "zh" sydd mor nodweddiadol heddiw o'r Llydaweg (Breizh). Roedd ei orgraff o hefyd yn gwadu'r confensiwn Llydewig, arferol, o ddefnyddio "c'h" (tebyg i'r "ch" Cymraeg) ac a fathwyd yn yr 17eg ganrif. Gwelir y lythyren hon yn sillafiad Ffrengig ei enw ef ei hun.

Yn 1951 y datblygodd ei ddadl ynglŷn â tharddiad y Llydaweg, gan ddadlau i'r mewnlifiaid Celteg Ynysig ddod wyneb yn wyneb â Galeg y Galiaid yn hytrach na Lladin ac i'r ddwy iaith Gelteg uno i greu Llydaweg.[1] Honodd yn groes i arbenigwyr y cyfnod, sef Joseph Loth a Léon Fleuriot fod tafodiaith ardal Gwened (neu "Vannes") sydd yn nwyrain Llydaw bron yn gyfangwbwl yn Aleg. "I am convinced that the dialect of Vannes, especially in southern Blavet, is a Gallic survival, little influenced by British contributions, and other dialects are simply Gaulish marked by the language of origin of the island immigrants".[2]

Codi nyth cacwn[golygu]

Daeth dadleuon Falc'hun yn asgwrn a grafwyd ac a ddadleuwyd yn ei gylch am flynyddoedd wedi idoo gyhoeddi ei lyfr Perspectives nouvelles sur l’histoire de la langue bretonne (Perspectifau Newydd ar Hanes y Llydaweg) oherwydd ei fod yn cysylltu syniadau ieithyddol gyda rhai gwleidyddol.

Mae'r ieithydd Léon Fleuriot yn cytuno gyda barn Falc'hun i'r Llydaweg gael ei dylanwadu gan y Gelteg, ond yn anghytuno gyda dadl Falc'hun fod tafodiaith Gwened wedi tarddu o'r Galeg.

Yn ôl cyfaill iddo, Françoise Morvan, dioddefodd Falc'hun nifer o alwadau ffôn ffiaidd gan Lydawyr pybyr.[3]

Cyhoeddiadau[golygu]

  • Le système consonantique du breton avec une étude comparative de phonétique expérimentale - Thèse présentée à la faculté des Lettres de l'université de Rennes, Rennes, imp. Réunies, imp. Plihon, 1951
  • Préface de l'ouvrage "L'abbé Jean-Marie Perrot", du chanoine Henri Poisson, Édition Plihon (1955).
  • Un texte breton inédit de Dom Michel Le Nobletz. (Extrait des annales de Bretagne). Rennes, imprimerie réunies, 1958
  • Histoire de la Langue bretonne d'après la géographie linguistique - T. I : Texte - T. II : figures Paris, P.U.F. -1963
  • Les noms de lieux celtiques. Première série : vallées et plaines. Rennes, Editions Armoricaine, 1966, Deuxième série : Problèmes de doctrine et de méthode - noms de hauteur. Rennes, Éditions Armoricaines, 1970
  • Perspectives nouvelles sur l'histoire de la langue bretonne. Paris, Union Générale d'Éditions, 1981
  • Les noms de lieux celtiques. Première série : vallées et plaines. Deuxième édition, revue et considérablement augmentée. Genève (ville)|Genève, Slatkine. 1982. Gyda Bernard Tanguy.
  • Les noms de lieux celtiques. Troisième série : Nouvelle Méthode de Recherche en Toponymie Celtique 1984. Gyda Bernard Tanguy.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Glanville Price, The Celtic Connection, Colin Smythe, 1994, tud.7
  2. Je suis persuadé que le dialecte vannetais , surtout au sud du Blavet , est une survivance gauloise peu influencée par l’apport breton, et les autres dialectes un gaulois simplement plus marqué par la langue des immigrés d’origine insulaire» (Perspectives nouvelles sur l’histoire de la langue bretonne, p. 530)
  3. Françoise Morvan, Le Monde comme si - Nationalisme et dérive identitaire en Bretagne, Actes Sud, 2002, p 132.