François-Joseph Gossec

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
François-Joseph Gossec, gan Antoine Vestier.

Cyfansoddwr Belgaid oedd François-Joseph Gossec (17 Ionawr 1734 – 16 Chwefror 1829), a oedd yn cyfansoddi operau, pedwarawdau tannau, symffonïau a gweithiau corawl yn Ffrainc.

Bywgraffiad[golygu]

Roedd Gossec yn fab i ffermwr, ganwyd ym mhentref Vergnies, yn Hainaut, a oedd yn Ffrengig ar y pryd, ond sy'n ran o Wlad Belg erbyn hyn. Wedi dangos blas cynnar ar gerddoriaeth, daeth yn fachgen-côr yn Antwerp. Aeth i Baris ym 1751 a cymerwyd ef ymlaen gan y cyfansoddwr Jean-Philippe Rameau. Olynodd Rameau fel arweinydd cerddorfa bychan breifat fermier général Le Riche de La Poupelinière, amatur cyfoethog a noddwr mawr o gerddoriaeth, ac yn raddol daeth Gossec yn benderfynnol o wneud rhywbeth i adfywio'r astudaeth o gerddoriaeth offerynol yn Ffrainc.

Perfformiwyd symffoni cyntaf Gossec ym 1754, ac fel arweinydd cerddorfa Prince de Condé cynhyrchodd sawl opera a chyfansoddiadau eraill ei hun. Bu'n hynod o lwyddianus yn dylanwadu cerddoriaeth Ffrengig. Perfformiwyd ei Requiem am y tro cyntaf ym 1760, darn naw deg munud o hyd a drodd ef yn enwog dros nos. Cafodd y darn hwn ei edmygu'n ddiweddarach gan Wolfgang Amadeus Mozart, a ymwelodd â Gossec yn ystod taith anllywddianus i Baris ym 1778, a disgrifiodd Gossec iw dad fel "cyfaill da iawn a dyn sych iawn".

Sefydlodd Gossec y Concert des Amateurs ym 1770 ac ym 1773 ail-drefnodd y Concert Spirituel ynghyd â Simon Leduc a Pierre Gaviniès. Yn y cyfres hwn o gyngherddi, cyflwynodd ac arweiniodd ei symffonïau ei hun yn ogystal a rhai ei gyfoeswyr, yn arbennig gweithiau Joseph Haydn, daeth cerddoriaeth Haydn yn fwy poblogaidd ym Mharis, gan ddisodli gwaith symffoni Gossec yn y pen draw. Yn ystod yr 1780au, lleihaodd y nifer o symffonïau a gyfansoddodd Gossec gan iddo ganolbwyntio ar operau. Trefnodd yr École de Chant ym 1784, ynghyd â Etienne Méhul, a bu'n arweinydd band y Garde Nationale yn y Chwyldro Ffrengig. Apwyntiwyd ef (ynghyd â Méhul unwaith eto, a Luigi Cherubini) yn arolygwr y Conservatoire de Musique ar ei sefydliad ym 1795. Roedd yn aelod gwreiddiol o'r Institut ac yn chevalier yn y Légion d'honneur. Ym 1815, wedi gorchfygiad Napoleon yn Waterloo, caewyd y Conservatoire am gyfnod gan Louis XVIII, a bu'n raid i Gossec ymddeol yn 81 oed. Hyd 1817, bu'n gweithio ar ei gyfansoddiad olaf, trydydd Te Deum, a cefnogwyd ef gan bensiwn a roddwyd iddo gan y Conservatoire.

Bu farw yn ardal Passy, Paris. Mynychwyd wasanaeth ei angladd gan gyn-gydweithwyr, gan gynnwys Cherubini, ym mynwent Père Lachaise, Paris. Lleolir ei fedd yn agos i rai Méhul a Grétry.

Mae rhai o'i dechnegau yn ymddangos fel petaent wedi rhagweld datblygiadau newydd yr oes Ramantus: ysgrifennodd Te Deum ar gyfer 1200 o gantorion a 300 o offerynnau chwyth; mae sawl oratorïau yn cynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer gwahanu sawl côr yn gorfforol, gan gynnwys rhai cudd tu ôl i'r llwyfan. Ysgrifennodd sawl llyfr i anrhydeddu'r Chwyldro Ffrengig, gan gynnwys Le Triomphe de la République, a L'Offrande à la Liberté.

Er y buasai gan y rhanfwyaf o bobl drafferth yn adnabod Gavotte Gossec oddiwrth y teitl, mae'r felodi ei hun yn gyfarwydd yn yr Unol Daleithiau oherwydd i Carl Stalling ddefnyddio trefniant yng nghartwnau Warner Brothers.

Nid oedd yn adnabyddus iawn y tu allan i Ffrainc, ac mae eigyfansoddiadau niferus, sanctaidd a seciwlar, wedi cael eu cysgodi gan weithiau cyfansoddwyr mwy enwog; ond roedd Gossec yn ysbrydoliaeth i nifer, ac roedd yn ysgogiad cryf i adfywiad cerddoriaeth offerynol.

Gweithiau[golygu]

Ar gyfer cerddorfa[golygu]

  • Sei sinfonie a più strumenti op. 4 (1759)
  • Sei sinfonie a più strumenti op. 5 (1761)
  • Six Symphonies op. 6 (1762)
  • Six Symphonies à grand orchestre op. 12 (1769)
  • Deux symphonies (1773)
  • Symphonie n° 1 (c. 1771-1774)
  • Symphonie n° 2 (c. 1771-1774)
  • Symphonie en fa majeur (1774)
  • Symphonie de chasse (1776)
  • Symphonie en ré (1776)
  • Symphonie en ré (1777)
  • Symphonie concertante en fa majeur n° 2, à plusieurs instruments (1778)
  • Symphonie en do majeur for wind orchestra (1794)
  • Symphonie à 17 parties en fa majeur (1809)

Cerddoriaeth Siambr[golygu]

  • Sei sonate a due violini e basso op. 1 (c. 1753)
  • Sei quartetti per flauto e violino o sia per due violini, alto e basso op. 14 (1769)
  • Six Quatuors à deux violons, alto et basse op. 15 (1772)

Gweithiau Llais a Choraol[golygu]

  • Messe des morts (Requiem) (1760)
  • La Nativité, oratorio (1774)
  • Te Deum (1779)
  • Te Deum à la Fête de la Fédération for three voices, men's chorus and wind orchestra (1790)
  • Hymne sur la translation du corps de Voltaire au Panthéon for three voices, men's chorus and wind orchestra (1791)
  • Le Chant du 14 juillet (Marie-Joseph Chénier) for three voices, men's chorus and wind orchestra (1791)
  • Dernière messe des vivants, for four voices, chorus and orchestra (1813)

Operau[golygu]

  • Le Tonnelier, opéra comique (1765)
  • Le Faux Lord, opéra comique (1765)
  • Les pêcheurs, opéra comique en 1 act (1766)
  • Toinon et Toinette, opéra comique (1767)
  • Le Double Déguisement, opéra comique (1767)
  • Les Agréments d'Hylas et Sylvie, pastorale (1768)
  • Sabinus, tragédie lyrique (1773)
  • Berthe, opera (1775, not extant)
  • Alexis et Daphné, pastorale (1775)
  • Philémon et Baucis, pastorale (1775)
  • La Fête de village, intermezzo (1778)
  • Thésée, tragédie lyrique (1782)
  • Nitocris, opera (1783)
  • Rosine, ou L'Éposue abandonnée, opera (1786)
  • Le triomphe de la République, ou Le camp de Grandpré, divertissement-lyrique en 1 acte, (Chénier) (1794)
  • Les Sabots et le cersier, opera (1803)

Cyfeiriadau[golygu]

  • Encyclopædia Britannica, 11eg Rhifyn
  • Thibaut, W., François Joseph Gossec, Chantre de la Révolution française, (1970)

Dolenni allanol[golygu]