Frühlings Erwachen

Oddi ar Wicipedia
Frühlings Erwachen
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurFrank Wedekind Edit this on Wikidata
IaithAlmaeneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1891 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1891 Edit this on Wikidata
Genredrama fiction Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afDeutsches Theater Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af20 Tachwedd 1906 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Drama Almaeneg yw Frühlings Erwachen (Deffro'r Gwanwyn) a ysgrifennwyd ym 1890/1891 gan y dramodydd Frank Wedekind. Ni lwyfanwyd y ddrama nes 1906. Mae'r ddrama'n ymwneud â deffroad rhywiol criw o arddegolion yn yr Almaen ddiwedd y 19g. Roedd yn ddrama ddadleuol iawn ar y pryd, a waharddwyd a sensorwyd am gyfnod oherwydd ei phortread cignoeth o erthylu, cyfunrywioldeb, trais rhywiol, cam-drin plant a hunanladdiad.[1][2][3]

Sioe gerdd[golygu | golygu cod]

Yn 2006 llwyfanwyd y sioe gerdd Spring Awakening sydd wedi ei selio ar y ddrama, ac yn 2011 llwyfanwyd addasiad Cymraeg o'r sioe gerdd dan yr enw Deffro'r Gwanwyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Spring Awakening Sex Theatre. TheGuardian 2009
  2. "Spring Awakening". The Ohio State University Department of Theatre. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-09-10. Cyrchwyd 10 Medi 2012.
  3. The Stories Behind Some of History’s Most Controversial Theatrical Productions