Flying Fish Cove

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Map o Ynys y Nadolig yn dangos lleoliad Flying Fish Cove ('The Settlement')

Prif aneddiad Ynys y Nadolig, ynys yng Nghefnfor India sy'n un o diriogaethau Awstralia, yw Flying Fish Cove. Cyfeirir ato hefyd fel 'Kampong' ac ar fapiau yn aml fel "The Settlement." Cyfeiria'r enw olaf at y ffaith mai yma y sefydlwyd yr aneddiad gwreiddiol ar yr ynys gan Brydain yn 1888.

Mae tua thraean (c. 500) o boblogaeth yr ynys yn byw yn Flying Fish Cove. Mae'n gorwedd ar ben gogledd-orllewinol yr ynys gyda harbwr bychan a llain glanio wrth ei ymyl.