Y Flying Dutchman (llong)

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Flying Dutchman)
The Flying Dutchman (llun gan Albert Pinkham Ryder)

Mae'r Flying Dutchman yn enw a roddir ar long ysbrydol y dywedir ei bod yn hwylio moroedd de Affrica, yn bennaf Penrhyn Gobaith Da.

Yn ôl y traddodiad mae'n llong na all fyth ddychwelyd adre ac sydd wedi'i thyngedu i hwylio'r "Saith Fôr" hyd dragwyddoldeb. Credai morwyr fod unrhyw forwyr digon anffodus i'w gweld hi'n rhwym o gwrdd a thrychineb yn fuan wedyn. Roedd y Flying Dutchman yn cael ei gweld o hirbell fel rheol, weithiau'n disgleirio â goleuni gwyn annaearol. Os caiff y llong ei galw gan llong arall mae'r criw yn ceisio anfon negeseuon i'r tir mawr, i bobl sydd wedi marw ers blynyddoedd.

Dywedir ei bod yn hwylio am byth heb obaith o gyrraedd y lan eto fel cosb am greulondeb y capten, Vanderdecken, a'i griw.

Mae Richard Wagner wedi cyfansoddi opera enwog am y llong, sy'n dwyn ei henw.