Flores Poetarum Britannicorum

Oddi ar Wicipedia
Flores Poetarum Britannicorum

Blodeugerdd gynnar o farddoniaeth Gymraeg yw'r Flores Poetarum Britannicorum. Fe'i cyhoeddwyd yn 1710 gan Dafydd Lewys o Lanllawddog. Cafodd ei argraffu yn Amwythig.

Teitl llawn y gyfrol yw:

Flores Poetarum Brittanicorum
Sef Blodeuog waith y Prydyddion Bryttannaidd

Llwyddodd y golygydd i gael gafael ar gasgliad o gerddi Cymraeg o waith sawl bardd a wnaeth y Dr. John Davies, Mallwyd yn y ganrif flaenorol. Er nad oes fawr o werth iddi fel blodeugerdd - darnau o waith gan Beirdd yr Uchelwyr ac eraill wedi'u trefnu dan sawl pen ydyw - roedd yn ymgais clodwiw ac arloesol am ei gyfnod.

Ar ddiwedd y casgliad o gerddi ychwanegwyd testun o draethawd barddol William Midleton (fl. 1550-1600), sef Bardhoniaeth neu brydydhiaeth (1593), sy'n disgrifio rheolau Cerdd Dafod.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Thomas Parry, Hanes llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Caerdydd, 1944)
  • Gwilym Lleyn, Llyfryddiaeth y Cymry (Llanidloes, 1869)

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]