Flores (Indonesia)

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lleoliad Flores

Un o ynysoedd Indonesia yw Flores. Mae'n un o'r Ynysoedd Swnda Lleiaf, a saif i'r dwyrain o ynysoedd Sumbawa a Komodo ac i'r gorllewin o Lembata. Yn wleidyddol, mae'n rhan o dalaith Dwyrain Nusa Tenggara. Saif Timor i'r de-ddwyrain a Sumba i'r de, gyda Sulawesi i'r gogledd.

Mae poblogaeth yr ynys tua 1,600,000, y mwyafrif mawr yn Gatholigion o ran crefydd. Y dref fwyaf yw Maumere.