Florac
Oddi ar Wicipedia
Cymuned yn Ffrainc yw Florac (Ocsitaneg: Florac), a leolir yn département Lozère yn rhanbarth Languedoc-Roussillon. Poblogaeth: 1,908. Gelwir pobl o Florac yn 'Floracois'.
Gorwedd y dref fechan ar lan Afon Tarnon wrth ei chymer ag Afon Mimente.
Mae atyniadau ger Florac yn cynnwys
- Ceunentydd Afon Tarn
- Parc Cenedlaethol y Cévennes
- La Cham des Bondons, un o safleoedd cynhanesyddol pwysicaf y wlad
Arosodd yr awdur Albanaidd Robert Louis Stevenson yn Florac ar 30 Medi 1878 ar ei daith trwy ardal y Cévennes a ddisgrifir yn ei lyfr enwog Travels with a Donkey in the Cévennes (1879).
Dolenni allanol [golygu]
- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: