Flight of the Conchords

Oddi ar Wicipedia

Grwp gwerin-parodi o Seland Newydd yw Flight of the Conchords. Mae gan y grwp ddau aelod, Bret Mckenzie a Jemaine Clement, sydd yn creu comedi trwy gerddoriaeth. Mae'r Conchords yn arbennigo ar gomedi arsylliadol, sydd wedi ei addasu i ganeuon mae'r ddau yn chwarae ar y gitar. Daeth y grwp i amlygrwydd yn dilyn ymddangosiad ar raglen radio y BBC, ac yna rhaglen deledu Americanaidd o'r enw Flight of the Conchords.

Ymddangosiadau[golygu | golygu cod]

2002

  • Perfformio yn y Fringe Festival Caeredin

2003

  • Perfformio yn y Fringe Festival Caeredin.
  • Perfformio yn y Melbourne International Comedy Festival. Enill 'Best Newcomer Award'.

2004

  • Perfformio at y Fringe Festival Caeredin.
  • Ymddangos mewn ymgyrch hysbysebu cwmni ffonau symudol Phones 4U.
  • Ymddangos a'r sioe ABC TV Stand Up! Awstralia

2005

  • BBC Radio 2 yn darlledu cyfres 'Flight of the Conchords'.
  • Ymddangos ar sioe arbennig One Night Stand ar sianel HBO, Unol Daleithiau America.

2006

  • Cyfres BBC Radio 2 yn enill Bronze Sony Radio Academy Award am gomedi.
  • Wedi perfformio yng ngwyl 'South by Southwest Music Festival' yn Austin, Texas.

2007

  • Yng Ngorffennaf 2007, Perfformiodd y grwp ar sioe David Letterman.
  • Perfformiodd y grwp yng ngwyl Bonnaroo yn Manchester, Tennessee.
  • Ar Hydref 24, 2007, ymddangosodd y grwp ar Late Night with Conan O'Brien.

2008

  • Yn Ionawr 2008, perfformiodd y grwp fel rhan o CES.

Caneuon[golygu | golygu cod]

Caneuon adnabyddus Flight of the Conchords, sydd yn ymddangos ar y sioe HBO yn fyw.

  • Business Time
  • Bret you've got it going on
  • Hiphopopotumus v Rhymenocerous
  • Inner City Pressure
  • Jenny
  • Think About It
  • Sello Tape
  • She's So Hot-Boom
  • Albi The Racist Dragon
  • I'm not cryin

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]