Flensburg

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Flensburg

Dinas a phorthladd yn nhalaith Schleswig-Holstein yn yr Almaen yw Flensburg (Daneg a Norwyeg: Flensborg). Roedd y boblogaeth yn 86,746 yn 2007.

Saif Flensburg gerllaw y Flensburger Fjord ar benrhyn Jutland, heb fod ymhell o'r ffîn a Denmarc. Ceir dylanwad Danaidd ar y dafodiaith leol o Almaeneg. Sefydlwyd yn ddinas yn y 13eg ganrif, a thyfodd wedi i'r Cynghrair Hanseataidd ddirywio. Rhwng 1460 a 1864, hi oedd porthladd pwysicaf Denmarc. Daeth yn eiddo Prwsia yn 1864. Yn nyddiau olaf yr Ail Ryfel Byd, yn Flensburg yr oedd llywodraeth yr Amlaen.