Fidel Castro
Mae Fidel Castro (ganwyd 13 Awst 1926) yn wleidydd o Cuba. Roedd e'n brif weinidog ar ei wlad o 1959 hyd 1976 ac yn arlywydd o 1976 tan 2008.
Cynnwys |
Moncada [golygu]
Fe'i ganwyd yn fab i berchennog planhigfa siwgr cgyfoethog yn 1926. Daeth i wrthwynebu polisïau a llywodraeth gormesol Fulgencio Batista. Ar 26 Gorffennaf 1953 arweiniodd ymosodiad aflwyddiannus ar faracs Moncada a chafodd ei garcharu hyd 1955.
Granma [golygu]
Treuliodd gyfnod o alltudiaeth yn Mexico gyda'i frawd Raoul lle cyfarfu â Che Guevara. Yn 1956 hwyliodd o Fexico ar y llong fach Granma gyda'i gyd-chwyldroadwyr arfog, yn cynnwys Che Guevara. Ar ôl cyfnod hir o wrthryfela ym mryniau coediog y Sierra Madre, llwyddodd i ddisodlu llywodraeth Batista pan gipiodd Havana ar 1 Ionawr, 1959.
Argyfyngau [golygu]
Sefydlodd lywodraeth sosialaidd yn Cuba ac enillodd ddicter yr Unol Daleithiau oherwydd ei raglen o roi tir tirfeddianwyr cyfoethog i'r werin ac am ei chefnogaeth agored i fudiadau chwyldroadol eraill yn Ne a Chanolbarth America. Ceisiodd yr Unol Daleithiau gael gwared o Castro a'i lywodraeth. Gosodwyd embargo economaidd ganddynt. Y canlyniad fu i Castro droi fwyfwy at yr Undeb Sofietaidd am gymorth. Penllanw y cyfnod cythryblus hwnnw oedd goresgyniad y Bay of Pigs ac Argyfwng Taflegrau Cuba.
Ar lwyfan y byd [golygu]
Ar ddiwedd y 1960au ac yn ystod y 1970au ceisodd Castro, gyda chryn raddau o lwyddiant, chwarae rôl ehangach ar y llwyfan ryngwladol fel un o arweinwyr y Gwledydd Amhleidiol (Non-Aligned Countries).
Heddiw [golygu]
Yn 2006 cafodd salwch a threuliodd gyfnod yn yr ysbyty. Daeth ei frawd Raoul yn arlywydd yn 2008.