Ffrynt Cenedlaethol Prydain

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Mae 'National Front' yn cael ei ailgyfeirio i'r dudalen hon. Am fudiadau eraill o'r enw 'Ffrynt Cenedlaethol' gweler y dudalen gwahaniaethu Ffrynt Cenedlaethol.
Ffrynt Cenedlaethol
Arweinydd Ian Edward
Sefydlwyd 1967
Pencadlys Solihull, Gorllewin Canolbarth Lloegr
Ideoleg Wleidyddol Cenedlaetholdeb Gwyn
Cenedlaetholdeb Prydeinig
Poblyddiaeth y dde
Ewrosgeptigaeth
Trydydd Safle
Safbwynt Gwleidyddol De eithafol
Tadogaeth Ryngwladol Dim
Tadogaeth Ewropeaidd Dim
Grŵp Senedd Ewrop Dim
Lliwiau Coch, Gwyn a Glas
Gwefan www.national-front.org.uk
Gwelwch hefyd Gwleidyddiaeth y DU

Rhestr pleidiau gwleidyddol y DU
Etholiadau yn y DU

Plaid wleidyddol Brydeinig, adain dde eithafol yw Ffrynt Cenedlaethol Prydain (Saesneg: British National Front neu'r National Front) sy'n arddel cenedlaetholdeb Prydeinig ac sydd â'i gwreiddiau gwleidyddiol yn yr 1970au a'r 1980au[1]. Yn gyffredinol, fe'i hystyrir yn grŵp hiliol, ac mae gwasanaeth carchar Prydain a gwasanaethau'r heddlu yn gwahardd eu gweithwyr rhag bod yn aelod o'r Ffrynt Cenedlaethol (yn ogystal â'r PGP a Combat 18).[2] Dywed y Ffrynt Cenedlaethol nad plaid Natsïaidd ydyw, fel yr ystyria rhai pobl ac mai mudiad democratiaidd wleidyddiol ydyw. Dywedant eu bod yn credu mewn cyfiawnder cymdeithasol, rhyddfrydiaeth cenedlaethol a galwant am Fesur Seneddol o iawnderau i bawb[3] Dywedant fod y FfC yn gwrthwynebu imperialaeth economaidd a diwylliannol ac y dylai cenhedloedd fod yn rhydd i benderfynu eu cyfundrefnau gwleidyddiol, economaidd a diwylliannol eu hun.'[4] Serch hynny, maent yn parhau i gael eu hystyried fel plaid eithafol ac yn aml gwelir gwrthwynebiad pan sefydlir cangen o'r Ffrynt Cenedlaethol mewn ardal benodol.[5] Gwelir gwrthwynebiad hefyd i orymdeithiau'r Ffrynt Cenedlaethol.[6]

1960au hwyr: trefniant[golygu]

Roedd mudiad undod y dde eithafol wedi tyfu yn ystod yr 1960au fel roedd grwpiau yn gweithio'n fwy agos at ei gilydd. Darparwyd ysgogiad gan etholiad cyffredinol 1966 pan orchfygwyd y Blaid Geidwadol a dadleuodd A. K. Chesterton, cefnder y nofelydd G. K. Chesterton a rheolwr o Gynghrair y Teyrngarwyr Imperialaidd, y byddai plaid wladgarol a hiliol wedi ennill yr etholiad.[7] Yn ddiweddarach, siaradodd Chesterton â Phlaid Genedlaethol Prydain yn y 1960au - a oedd wedi trafod ffordd posibl â'r Blaid Ddemocratiaethol Genedlaethol newydd. Cytunodd rhan o Gymdeithas y Gadwedigaeth Hiliol, a reolwyd gan Robin Beauclair, hefyd i gymryd rhan ac felly dechreuodd y FfC ar y 7fed o fis Chwefror, 1967.[8]

Ei bwrpas oedd gwrthwynebu mewnfudiaeth a pholisïau amlddiwyllant Prydain, a chytundebau rhyngwladol fel y Cenhedloedd Unedig neu Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd fel newidiadau am gytundebau dwyochrog negodedig rhwng cenhedloedd. Gwaharddodd y grŵp newydd Natsiaid-newydd rhag ymuno â'r blaid, ond ymunodd aeoladau o Fudiad Natsiaid-newydd Prydain Fawr megis John Tyndall fel aelodau unigol.[9] Achosodd hyn i amryw aelodau ymddiswyddo mewn protest, Rodney Legg yn arbennig.

1970au gynnar: twf[golygu]

Tyfodd y Ffrynt Cenedlaethol yn ystod y 1970au ac yr oedd cymaint â 20,000 o aelodau ganddynt yn 1974. Gwnaeth e'n neilltuol iawn yn yr etholiadau lleol gan dderbyn 44% o'r bleidlais yn Deptford, Llundain (â grŵp sgyren), gan bron â churo ymgeisydd Llafur, a enillodd yn unig oherwydd plaidlais yr ysgyren. Daeth yn drydydd mewn tair is-etholiadau seneddol. Mewn un o'r enhreifftiau hwn yn unig- is-etholiad De Newham, 1974 (lle aelod blaenorol o Gynghrair Gomiwynydd Ifainc oedd yr ymgeisydd, Mike Lobb[10])- curodd y FFC y Ceidwadwyr.

Roedd ei sylfaen etholiadol yn cynnwys llawer o weithwyr a phobl hunangyflogedig a oedd yn erbyn gystadleuaeth mewnfudiaeth yn y farchnad neu olwg y mewnfudwyr. Hefyd tynnodd y blaid ychydig o Geidwadwyr dadrithiedig a roddodd llawer o arbenigaeth a pharchedigaeth angenrheidiol. Daeth y Ceidwadwyr yn arbennig o grŵp Clwb Dydd Llun Ceidwadol yn y Blaid Geidwadol a oedd ar sail adwaith gelyniaethus i araith "Wind of Change" ("Gwynt o Newid") Harold Macmillan.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "1975: Ffrynt Cenedlaethol yn atgynllunio yn erbyn Ewrop", BBC, Accessed 1 March 2007
  2. Aelodaeth Staff o grwpiau a threfnau hiliol, HM Prison Service, 28-08-2001. Adalwyd 19-01-2009
  3. National Front - 100 questions and answers - The Faqs
  4. National Front - Statement of Policy
  5. Teen plans anti-National Front march Gazette and Herald. Adalwyd 19-03-2009
  6. Pressure to ban National Front march Newyddion y BBC. Adalwyd 19-03-2009
  7. M. Walker, The National Front, Glasgow: Fontana Collins, 1977, p. 58
  8. S. Taylor, The National Front in English Politics, London: Macmillan, 1982, pp. 18-19
  9. Taylor, The National Front in English Politics, London: Macmillan, 1982, p. 19
  10. Election address, February 1974

Gweler hefyd[golygu]

Dolenni allanol[golygu]