Ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011

Oddi ar Wicipedia
Ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011
Enghraifft o'r canlynolhunanfomio mewn car Edit this on Wikidata
Dyddiad25 Rhagfyr 2011 Edit this on Wikidata
Lladdwyd43 Edit this on Wikidata
LleoliadMadalla Edit this on Wikidata
Map
Ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011 is located in Nigeria
Damaturu
Damaturu
Jos
Jos
Gadaka
Gadaka
Madalla
Madalla
Lleoliadau'r ffrwydradau yn Nigeria.

Cyfres o ffrwydradau ar draws gogledd-ddwyrain Nigeria ac y tu allan i'r brifddinas Abuja ar 25 Rhagfyr 2011 oedd ffrwydradau Nigeria, Nadolig 2011. Cafodd gwasanaethau'r Nadolig mewn eglwysi eu targedu gan Boko Haram, grŵp Islamaidd filwriaethus sydd â'r nod o orfodi sharia ar Nigeria. Bu farw 37 o bobl mewn ffrwydrad y tu allan i Eglwys y Santes Teresa ym Madalla, ger Abuja, ac anafwyd 57.[1] Bu ffrwydrad yn agos i Eglwys Mynydd y Tân a'r Gwyrthiau yn Jos, a chafodd heddwas yna ei ladd wrth i ddynion arfog saethu ar bobl. Cafodd dau fom arall mewn adeilad agos eu diarfogi gan luoedd milwrol.[2]

Bu dau ffrwydrad yn ninas Damaturu, un ohonynt gan hunan-fomiwr car ar gonfoi Gwasanaeth Diogelwch y Wladwriaeth a laddodd tri pherson ar wahân i'r bomiwr, a ffrwydrad arall ger eglwys yn nhref Gadaka.[2]

Ymateb[golygu | golygu cod]

Dywedodd yr Arlywydd Goodluck Jonathan fod yr ymosodiadau yn "sarhad anwarantedig ar ein diogelwch a rhyddid cyfunol" ac addawodd i ddod o hyd i'r rhai sy'n gyfrifol a'u cosbi.[2] Cafodd y ffrwydradau eu condemio gan Ffrainc, y Deyrnas Unedig, y Fatican, yr Unol Daleithiau, a'r Almaen, a datganodd Israel y bydd yn anfon cymorth meddygol i Nigeria.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Nigeria church bomb death toll rises to 37, wounded 57. Reuters (30 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 3 Ionawr 2012.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 (Saesneg) Deadly Nigeria bomb attacks condemned by world leaders. BBC (25 Rhagfyr 2011). Adalwyd ar 3 Ionawr 2012.