Fforest y Ddena
Oddi ar Wicipedia
Ardal ddaearyddol, hanesyddol a diwylliannol yn Swydd Gaerloyw, Lloegr, yw Fforest y Ddena[1] (Saesneg: Forest of Dean). Mae'n ffinio ag Afon Gwy i'r gorllewin ac i'r gogledd, Afon Hafren i'r de, a dinas Caerloyw i'r dwyrain. Mae'n cynnwys mwy na 110 km² o goetir hynafol, ac mae'n goedwig frenhinol. Ymhlith trefi'r ardal yw Coleford, Cinderford a Lydney.
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 10.
Mae gan Gomin Wikimedia gyfryngau sy'n berthnasol i: