Fforest law
Oddi ar Wicipedia
Fforest law neu Coedwig law yw coedwig mewn ardaloedd lle ceir dros tua 1750 mm hyd 2000 mm (68 modfedd hyd 78 modfedd) o law y flwyddyn.
Ceir dwy ran o dair o'r holl rywogaethau o anifeiliaid a phlanhigion ar y blaned yn y fforestydd glaw, a chredir fod cannoedd o filiynau o rywogaethau yn dal heb eu darganfod. Ceir y rhan fwyaf o fforestydd glaw y ddaear yn y trofannau, yn enwedig yn nalgylch Afon Amazonas, mewn rhannau o Ganolbarth America megis Nicaragua, yn Affrica i'r de o'r Sahara yn ymestyn o Cameroon i Weriniaeth Congo, yn ne-ddwyrain Asia o Myanmar hyd Indonesia a Papua Gini Newydd, ac yng ngogledd Awstralia.
Ceir hefyd fforestydd glaw tu allan i'r trofannau, yn enwedig ger arfordir gorllewinol yr Unol Daleithiau a Canada.