Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio

Cymuned ym Mhowys, yw Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan (Saesneg: Forden with Leighton and Trelystan). Saif y gymuned ar lan ddwyreiniol Afon Hafren, rhwng yr afon a'r ffîn â Lloegr, a gyferbyn a'r Trallwng ar lan arall Hafren. Mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Ffordun, Tre'r-llai a Trelystan.

Ceir nifer o hynafiaethau yn y gymuned, yn cynnwys bryngaer Caer Digoll ar ben Cefn Digoll; crybwyllir y rhain yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy. Mae Caer Ffordun yn gaer bwysig o gyfnod y Rufeiniaid, ac mae Clawdd Offa yn mynd trwy'r gymuned.

Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 1,320.

Cyfrifiad 2011[golygu]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan (pob oed) (1,426)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan) (150)
  
10.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan) (557)
  
39.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Ffordun gyda Thre'r-llai a Threlystan) (199)
  
33.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. http://www.ons.gov.uk/ons/rel/census/cyfrifiad-2011/ystadegau-allweddol-ar-gyfer-awdurdodau-unedol-yng-nghymru/stb-2011-key-statistics-for-wales---welsh.html. Adalwyd 2012-12-12. . Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.