Ffordd osgoi Rhuddlan

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Pont a adeiladwyd er mwyn cario'r ffordd osgoi ar draws yr afon Clwyd
Mẁg sy'n dathlu agoriad y ffordd osgoi, gyda llun o Gastell Rhuddlan

Rhan y briffordd A525 ger Rhuddlan ydy Ffordd osgoi Rhuddlan.

Hanes[golygu]

Cafwyd trafodaeth yn San Steffan yn Chwefror 1992 am fanteision posib i drefi Y Rhyl a Phrestatyn yn sgîl ffordd osgoi, gan y byddai'n gwella'r mynediad i dwristiaid i'r arfordir.[1] Cafodd y prosiect ei gadarnhau'n swyddogol yn 1993.[2] Yn 1996, cafodd Cyngor Sir Ddinbych gyfrifoldeb am y prosiect. Ym mis Chwefror 1997, pan nad oedd y ffordd wedi'i hagor eto, bu cwestiwn pellach yn San Steffan am ddyddiad tebygol yr agoriad, ac Ebrill neu Fai oedd yr ateb.[3] Cafodd ei hagor yn niwedd mis Gorffennaf, 1997.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cofnodion Hansard Tŷ'r Cyffredin 12.02.1992 (Saesneg)
  2. The County Council of Clwyd (A525 St Asaph—Rhyl Road, Rhuddlan Bypass Stage II) River Clwyd Bridge Scheme 1992 Confirmation Instrument 1993 (Saesneg)
  3. Cofnodion Hansard Tŷ'r Cyffredin 03.02.1997 (Saesneg)