Ffoledd
Oddi ar Wicipedia
Ivy Tower, Tonna.
Ffoledd mewn pensaernïaeth yw adeilad sydd wedi ei adeiladu ar gyfer addurn yn unig, heb fod iddo bwrpas arall.
Ceir llawer o'r adeiladau hyn yn dyddio o'r 18fed a'r 19eg ganrif, ac mae'r traddodiad wedi parhau i raddau. Mae rhai ohonynt yn ddynwarediadau o adeiladau canoloesol, er enghraifft cestyll a thyrrau. Ambell dro, adeiladwyd y ffoledd i edrych fel adfail.
Ffoleddau yng Nghymru[golygu]
Ymysg ffoleddau mwyaf adnabyddus Cymru mae:
- Castell Gwrych, ger Abergele
- Tŵr Ffoledd, Pontypŵl
- Tŵr Clwyd Gate ger Bwlch Pen Barras, Rhuthun