Ffin ieithyddol Sir Benfro

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Y Ffin Ieithyddol yn 1901

Mae ffin ieithyddol Sir Benfro[1], neu'r llinell Landsker, yn ffin ieithyddol hanesyddol yn ne-orllewin Cymru. Mae'r bobl i'r gogledd o'r ffin yn siarad Cymraeg yn bennaf tra bod y bobl i'r de wedi siarad Saesneg yn bennaf er y ddeuddegfed canrif.

Mae'r ymraniad ieithyddol hwn yn adlewyrchu hanes yr ardal. Daeth de Penfro i feddiant y Normaniaid yn yr 11fed ganrif ac yn y ganrif olynol cafwyd mewnlifiad sylweddol o Saeson a Ffleminiaid. Saesneg a Fflemeg oedd iaith y rhan honno o'r sir mewn canlyniad. Mae ôl y Fflemeg i'w gweld ar dafodiaith Saesneg Sir Benfro o hyd.

Siaredir Cymraeg gan y mwyafrif o hyd yn y gogledd, yn enwedig ar hyd yr arfordir o ardal Tyddewi i fyny ac ym mryniau'r Preselau a'r cylch. Yno y ceir tafodiaith Sir Benfro (Dyfedeg) ar ei chryfaf.[2]

Yn ôl yr hynafiaethydd George Owen, ar ddechrau'r 16eg ganrif y Gymraeg oedd iaith cantrefi Cemais, Cilgerran a Phebidiog. I'r dwyrain rhedai'r landsker trwy blwyfi Llanbedr Felffre a Llanddewi Felffre yng nghantref Arberth a thrwy Llanfallteg a Llandysilio yng nghantref Daugleddau..[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Awbery, Gwenllian M, Cymraeg Sir Benfro, Llanrwst, 1991, ISBN 0863811817
  2. 2.0 2.1 G. M. Awbery, 'Tafodiaith Sir Benfro', yn Abergwaun a'r Fro (Cyfres Bro'r Eisteddfod 6, 1986).

Gweler hefyd[golygu]