Ffetisiaeth
Yn ôl llên gwerin, gwrthrych sydd â phwerau goruwchnaturiol, neu, yn benodol, gwrthrych gwneud sydd â phwerau dros bobl a phethau eraill ydyw ffetis (hefyd a elwir yn eilun). Y mae'r gair yn dod o'r gair Ffrangeg fétiche, sy'n dod o'r gair Portiwgaleg feitiço, ac mae'r gair Portiwgaleg ei hun yn dod o'r gair Lladin facticius, sy'n golygu "artiffisial" a facere, "i wneud"). Yn y bôn, y priodoliad o werth ymfodol neu bwerau i wrthrych ydyw ffetisiaeth.
Cynnwys |
Hanes [golygu]
Ymarfer [golygu]
Yn ddamcaniaethol, y mae ffetisiaeth yn bresennol ymhob crefydd, ond o ran crefydd, y mae'n dod o gredau crefyddol traddodiadol Gorllewin Affrica, yn ogystal â Fwdŵ, sy'n dod o'r credau hynny.
Ystyrir gwaed yn ffetis neu gynhwysyn grymus o fewn ffetisiaeth a ffetisiau eu hunain. Yn ogystal â gwaed, y mae gwrthrychau a sylweddau eraill yn ffetisiau cyffredin mewn traddodiadau o ddiwylliannau byd-eang, megis esgyrn, ffwr, crafangau, plu, gemfeini a grisialau, dŵr o lefydd penodol, a mathau o blanhigion a phren penodol.
Defnyddiwyd ffetisiau yn gyffredin o fewn ymarferion a chrefyddau Brodorol Americanaidd.[1] Cynrychiolir y siaman gan yr arth, y darparwr ydyw'r byfflo, y rhyfelwr ydyw'r cwgr, a'r gwarcheidwad ydyw'r blaidd.[1]
Theorïau Ffetisiaeth yn y Gorllewin [golygu]
- Yn y 19eg ganrif, addasodd Karl Marx y term i ddisgrifio ffetisiaeth nwyddau fel elfen bwysig o gyfalafiaeth. Y dyddiau hyn, y mae ffetisiaeth nwyddau a chyfalaf yn gysyniad canolog Marcsiaeth.
- Wedi hynny, addasodd Sigmund Freud y cysyniad i ddisgrifio math o paraffilia lle mai gwrthrych difywyd neu ran benodol o berson dan sylw ydyw gwrthrych yr anwyldeb; gweler ffetisiaeth rywiol.
Gweler hefyd [golygu]
- Eilunaddoliaeth
- Ffetis (gwahaniaethu)
- Animistiaeth
- Totemiaeth
- Tabŵ
- The Power of Myth
Cyfeiriadau [golygu]
- ↑ 1.0 1.1 "Animals: fact and folklore," New Mexico Magazine, Awst 2008, tudalennau 56-63, gweler Gwefan cylchgrawn New Mexico.
Dolenni allanol [golygu]
- Andrew Lang, Ffetisiaeth ac Ysbrydoliaeth, The Making of Religion, (Pennawd VIII), Longmans, Green, a C°, Llundain, Efrog Newydd, a Bombay, 1900, tudalennau 147–159.