Ffenigl y moch

Oddi ar Wicipedia
Peucedanum officinale
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Apiales
Teulu: Apiaceae
Genws: Peucedanum
Enw deuenwol
Peucedanum officinale
Carl Linnaeus

Planhigyn blodeuol lluosflwydd ydy Ffenigl y moch sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Apiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Peucedanum officinale a'r enw Saesneg yw Hog's fennel. Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Pygys a Ffenigl yr Hwch. Mae'n frodorol o ganol a de Ewrop,[1] ac yn brin iawn yn Lloegr, ond mae i'w weld yn Essex a Kent.

Fe'i ceir mewn tir pori a cheuau gwair, clai neu ger yr arfordir. Tyf y bonion hyd at 2 m, yn soled a gyda blotsis coch lliw gwin. Melyn-wyrdd yw'r blodau ac mae'r dail o siap llafnau gwair yn wyrdd tywyll.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Flowers of Europe,a Field Guide Polunin,Oleg.Pub. Oxford University Press 1969.
  2. "Umbellifers of the British Isles Tutin T.G. BSBI Handbook No.2. Pub. Botanical Society of the British Isles,1980.
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: