Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc
Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc yw'r gymdeithas ieuenctid gwledig mwyaf o'i fath drwy Ewrop. Mae'r Ffederasiwn yn cynnwys amryw o Glybiau Ffermwyr Ifanc (CFfI) ar draws Cymru a Lloegr, gan helpu i gefnogi pobl ifanc ym myd amaeth a chefn gwlad. Mae wedi tyfu i gynnwys 659 o glybiau yng Nghymru a Lloegr. Nid yw'r ffederasiwn yn cynnwys clybiau yn yr Alban na Gogledd Iwerddon.[1]
Cynhelir Eisteddfodau sirol a chenedlaethol unwaith y flwyddyn yng Nghymru.
Cynnwys |
[golygu] Hanes
Y clwb hynaf sy'n dal i gyfarfod yw Clwb Ffermwyr Ifanc Swydd Buckingham, a sefydlwyd ym 1923.
[golygu] Strwythr
Mae'r aelodaeth yn cynnwys tua 20,000 o bobl ifanc rhwng 10 a 26 oed. Yn wahanol i'r mwyafrif o gymdeithasau ieuenctid, caiff y clybiau eu rhedeg gan yr aelodau, ar gyfer yr aelodau. Caiff y clybiau eu grwpio mewn 51 ffederasiwn lleol, yn dilyn ffiniau siroedd fel rheol. Cânt eu grwpio ymhellach yn saith is-ranbarth o Gymru a Lloegr, ac ar y cyd maen't yn ffurfio Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc.
Mae mudiad y ffermwyr ifanc yn cynnwys pobl sy'n byw a gweithio yng nghefn gwlad, neu sydd â diddordeb yng nghefn gwlad, sy'n ymuno â'i gilydd i ffurfio clwb "agored", lle gallant ddilyn eu diddordebau mewn rhaglen o weithgareddau sydd wedi ei gyfarwyddo ganddyn nhw eu hunain. Mae'r gweithgareddau yn cwmpasu amaethyddiaeth, chwaraeon, gwirfoddoli yn y gymuned, yr amgylchedd a gweithgareddau cymdeithasol.
Mae gan Cymru a Lloegr hefyd sawl uned fferm addysgol, sy'n aml yn rhedeg Clwb Ffermwyr Ifanc yr "Ysgol".
[golygu] Is-ffederasiynau rhanbarthol
Mae pob clwb yn perthyn i ffederasiwn rhanbarthol, sy'n gyfrifol am drefnu gweithgarethau'r rhanbarth rhwng y clybiau, a gweinyddu gweithgareddau cenedlaethol.
Rhanbarthau'r ffederasiynau:
- Cymru
- Dwyrain Lloegr
- Dwyrain Canolbarth Lloegr
- Gogledd Lloegr
- De-ddwyrain Lloegr
- De-orllewin Lloegr
- Gorllewin Canolbarth Lloegr
[golygu] Cenedlaethol
Mae pob CFfI a ffederasiwn rhanbarthol yn perthyn i'r Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc, sy'n gyfrifol am gadarnhau fod y rhaglenni o weithgareddau yn cynnwys elfen o addysg cymdeithasol personol, sy'n cynnig sialens i'w aelodau.
Lleolir y Swyddfa Genedlaethol yn Stoneleigh Park, Swydd Warwick.
[golygu] Dolenni allanol
[golygu] Cymru a Lloegr
- Gwefan swyddogol Ffederasiwn Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ifanc
- Cyfeirlyfr yn cynnwys rhestr o'r clybiau, prosiect agored DMOZ
[golygu] Cymru
[golygu] Sirol
[golygu] Cymru
Mae 12 ffederasiwn sirol yn ffederasiwn Cymru, sy'n cynnwys 162 o glybiau.
- CFfI Brycheiniog
- CFfI Ceredigion
- CFfI Clwyd
- CFfI Eryri
- CFfI Gwent
- CFfI Maesyfed
- CFfI Maldwyn
- CFfI Meirionnydd
- CFfI Morgannwg
- CFfI Sir Benfro
- CFfI Sir Gâr
- CFfI Ynys Môn
[golygu] Ffynonellau
- ↑ Becoming a Member.... National Federation of Young Farmers' Clubs.