Fetlar
Oddi ar Wicipedia
Un o'r ynysoedd sy'n ffurfio ynysoedd Shetland, i'r gogledd o dir mawr yr Alban, yw Fetlar. Saif i'r gogledd-ddwyrain o'r brif ynys, Mainland. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 60; y prif bentref yw Houbie ar yr arfordir deheuol, lle mae canolfan ymwelwyr.
Mae rhan helaeth o ogledd yr ynys yn warchodfa adar yn perthyn i'r RSPB.
Pentrefi Fetlar [golygu]
- Hamars Ness
- Houbie
Adeiladau a chofadeiladau [golygu]
- Porthdy Brough
Enwogion [golygu]
Syr William Watson Cheyne (1852-1932), meddyg